Tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailddefnyddio yng Nghymru: Ymgynghoriad nawr ar agor
Mae arnom angen eich barn, eich syniadau, eich heriau a’ch awgrymiadau ar ba gamau y mae angen i breswylwyr, busnesau a sefydliadau Cymru oll eu cymryd i greu diwylliant cyffredinol o atgyweirio ac ailddefnyddio.
Mae gwaith WRAP Cymru yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn hollbwysig ar gyfer hyrwyddo cynaliadwy a lliniaru’r newid yn yr hinsawdd. Drwy ganolbwyntio ar ailddefnyddio ac atgyweirio, rydym yn cyfrannu’n weithredol at ddatblygu economi gylchol. Mae’r dull hwn yn helpu i leihau gwastraff a lleihau’r effaith amgylcheddol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu a defnyddio.
Nod yr economi gylchol yw dylunio i ddiddymu gwastraff a llygredd, cadw nwyddau a deunyddiau’n ddefnyddiol, ac adfywio systemau naturiol. Drwy ddarparu ymchwil a dirnadaethau gwerthfawr, ac annog ailddefnyddio ac atgyweirio, mae WRAP Cymru yn chwarae rôl sylweddol mewn cyflawni’r nodau hyn.
Mae hyrwyddo atal gwastraff a chefnogi mentrau sy’n cynyddu ailddefnyddio ac ailgylchu’n gwarchod adnoddau gwerthfawr ac yn lleihau ôl-troed carbon y nwyddau a ddefnyddiwn. Mae hyn yn helpu’r ymdrech fyd-eang i frwydro’r newid yn yr hinsawdd a gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Mae cymorth WRAP Cymru ar gyfer ailddefnyddio ac atgyweirio’n cynnwys:
- Mapio’r sector ailddefnyddio ac atgyweirio yng Nghymru.
- Darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisïau a mentrau i gynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio.
- Canllawiau.
- Astudiaethau achos.
- Digwyddiadau.
Explore our work in re-use and repair
-
Mae’r offeryn Manteision Ailddefnyddio
-
Tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailddefnyddio yng Nghymru: Ymgynghoriad nawr ar agor
-
‘too good to waste’ a Chyfleoedd Cylchol, Masnachol
-
Tuag at Economi Gylchol yn GIG Cymru – Atgyweirio ac Adnewyddu Offer Symudedd
-
Adnodd Mapio Deunyddiau Cylchol i Gymru
-
Wastesavers: Cyfleoedd Ailddefnyddio a Chylchol Mewn Partneriaeth
-
Rhoi Ail Fywyd i Ddodrefn
-
Mewnwelediad Dinasyddion: Ailddefnyddio, Atgyweirio a Rhentu yng Nghymru – Gwanwyn 2023