Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth uchelgeisiol ‘Mwy nag Ailgylchu’ sy’n amlinellu ei gynllun i wireddu economi gylchol yng Nghymru. Er mwyn helpu i ddeall ymddygiad dinasyddion ac olrhain eu cynnydd o ran ailddefnyddio, atgyweirio a rhentu/prydlesu, mae WRAP wedi ailwampio ei arolwg 3R o 2015 (Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu/Reduce, Reuse, Recycle).
Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein rhwng Mawrth 17-22, 2023, a chysylltwyd â 1,002 o oedolion yng Nghymru ar draws 13 o gategorïau cynnyrch blaenoriaethol. Mae’r categorïau’n cynnwys dodrefn, offer DIY ac offer garddio, nwyddau trydanol mawr, nwyddau trydanol ac electronig bach ar gyfer y gegin, a mwy.
Canfyddiadau allweddol yr arolwg
- Mae Arbedion Costau yn Sbarduno Ymddygiadau Cylchol: Y prif sbardun ar gyfer ymddygiadau caffael cylchol yw arbedion cost. Mae mwynhau ‘bargen dda’ a’r gallu i fforddio eitemau a fyddai tu hwnt i’w cyrraedd fel arall hefyd yn symbylu dinasyddion.
- Angen am newidiadau systemig: Mae cyflawni targedau uchelgeisiol Mwy nag Ailgylchu yn galw am newidiadau systemig. Mae ymyriadau polisi, buddsoddi, a chyfathrebu ar draws y parthau cyhoeddus, busnes a dinasyddion yn hollbwysig.
Modelau Cylchol ac Ymddygiad Dinasyddion (yn seiliedig ar eitemau a restrwyd yng nghategorïau’r arolwg):
Ail-law
- Prynodd 33% o ddinasyddion Cymru eitemau ail-law’n ddiweddar.
- Mae 60% yn agored i brynu eitemau ail-law.
Prydlesu a rhentu
- Mae 37% yn agored i brydlesu hirdymor.
- Mae 58% yn prydlesu neu’n agored i brydlesu byrdymor.
Caffis ailddefnyddio a thrwsio
- Mae 36% yn atgyweirio eitemau eu hunain neu’n cael gwneud yn broffesiynol.
- Mae 73% yn agored i atgyweirio yn y dyfodol er mwyn gwneud arbedion cost a pharhad nwyddau.
- Mae 35% yn ymwybodol o gaffis trwsio, a byddai 44% yn ystyried defnyddio un.
Porth gwybodaeth
Mynegodd 66% ddiddordeb mewn porth gwybodaeth yn trafod opsiynau atgyweirio, rhentu ac ailddefnyddio yn eu hardal.
Gwaredu
Y prif rwystr i werthu neu gyfrannu eitem yw ei gyflwr (meddai 38% a 44%, yn eu trefn) a hefyd y drafferth sydd ynghlwm â gwerthu (35%).
Camau nesaf
Archwiliwch y canfyddiadau a goblygiadau’n fanwl yn yr adroddiad llawn yma.
Lawrlwytho ffeiliau
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
-
WRAP Cymru - Ailddeffnyddio, Atgyweirio a Rhentu Yng Nghymru – Gwanwyn 2023
PDF, 3.01 MB