Mae rhanddeiliaid yng Nghymru’n cydnabod yr angen dirfawr am arferion atgyweirio ac ailddefnyddio yn wyneb heriau amgylcheddol ac adnoddau.
Bydd annog mwy o fanteisio ar arferion ffordd gylchol o fyw fel atgyweirio ac ailddefnyddio yn cyfrannu at fwyhau datgarboneiddio, mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur a chreu Cymru wyrddach, mwy ffyniannus a mwy cydradd. Bydd y gwaith hefyd yn cyfrannu at helpu cymunedau daclo’r argyfwng costau byw.
Mae angen am ddiwylliant o atgyweirio ac ailddefnyddio, ac mae ei angen yn fwy nag erioed.
Ymatebydd i’r ymgynghoriad
Mae Cymru yn ail yn y byd am ailgylchu, felly gadewch inni barhau â’n hymdrechion a gosod y glasbrint yn fyd-eang ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio.
Beth mae ‘Diwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailddefnyddio’ yn ei olygu’n ymarferol?
Ar hyn o bryd, mae’r arfer o brynu’n newydd, defnyddio am gyfnod byr, a gwaredu’n gyflym yn un cyffredin yng Nghymru, ac felly hefyd yng ngweddill y DU a gwledydd Gorllewinol cefnog eraill.
Yn fyd-eang, gellir cysylltu 45% o allyriadau i’r model ‘cymryd-gwneud-defnyddio-gwaredu-ailadrodd’ hwn.
Er bod cynhyrchu nwyddau, fel dillad, ffonau ac eitemau i’r cartref ar raddfa fawr wedi golygu mwy o amrywiaeth, llai o gost, a gwell hygyrchedd, mae hefyd wedi arwain at niwed sylweddol i’r amgylchedd.
Mae’r ‘Strategaeth Mwy nag Ailgylchu’ yng Nghymru’n anelu at newid y cyfeiriad hwn drwy symud tuag at “ddiwylliant cyffredinol o ailddefnyddio, atgyweirio ac ailweithgynhyrchu yn ein cymunedau a chanol ein trefi”. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2026 yn ymrwymo i ddatblygu “80 o ganolfannau ailgylchu cymunedol mewn canol trefi” a “hyrwyddo cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio i annog siopa diwastraff.”
Fel rhan o’r gwaith ehangach hwn ar atgyweirio ac ailddefnyddio, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru WRAP i gynnal ymchwil a llunio set o gamau y mae eu hangen i’n symud tuag at ddiwylliant cyffredinol o atgyweirio ac ailddefnyddio.
Dilynwyd hyn gan ymgynghoriad cyhoeddus.
Canlyniad yr Ymgynghoriad Cyhoeddus
Fe wnaeth WRAP, ar ran Llywodraeth Cymru, wahodd holl breswylwyr, busnesau a sefydliadau Cymru i rannu eu barn, safbwyntiau ac arbenigedd ar y map trywydd ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio yng Nghymru.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn ar ffurf arolwg ar-lein, a oedd ar agor o 31ain Gorffennaf tan 20fed Hydref 2024.
Fe wnaethom dderbyn 109 o ymatebion. Yn gryno, roedd y themâu cyffredinol yn cynnwys:
Ymgysylltu Cadarnhaol
Roedd yna bositifrwydd eang tuag at fentrau arfaethedig, gan gynnwys gosod targedau a mesuriadau clir, hyrwyddo "hafan ddigidol" ar gyfer gwybodaeth yn ymwneud â thrwsio, ac ymgyrchu dros a mabwysiadu'r "hawl i atgyweirio" fel egwyddor.
Pryderon
Codwyd pryderon ynghylch allgáu digidol, yn enwedig ymhlith poblogaethau hŷn, a chwestiynau am fecanweithiau ariannu ar gyfer gwasanaethau megis siopau dros dro, gwasanaethau benthyca symudol a mentrau addysg. Roedd pryderon ynghylch sut i gynnwys pobl ifanc yn y diwylliant atgyweirio ac ailddefnyddio, gan awgrymu bod angen mentrau wedi'u targedu i'w hannog i gymryd rhan.
Rhwystrau a Chyfleoedd
Roedd llawer o randdeiliaid o blaid mwy o atebolrwydd gan gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr, ynghyd â chymhellion ariannol i gefnogi’r ecosystem atgyweirio ac ailddefnyddio. Daeth adeiladu partneriaethau a chreu synergeddau rhwng gwahanol grwpiau i’r amlwg fel blaenoriaeth.
Gan ddefnyddio’r adborth a dderbyniwyd, fe wnaethom rai newidiadau i’r adroddiad drafft a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwyd yn yr ymgynghoriad i oleuo camau gweithredu yn y dyfodol.
Gellir lawrlwytho crynodeb fanylach o’r adborth o’r ymgynghoriad isod
Pwy sy'n cefnogi'r newid i ddiwylliant cyffredinol o atgyweirio ac ailddefnyddio?
Dangoswch eich cefnogaeth
Gyda’ch cefnogaeth chi, gadewch inni osod y glasbrint yn fyd-eang ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio.
Anfonwch eich logo atom ni ac fe wnawn ei ychwanegu at dudalen we’r Map Llwybr i ddangos eich cefnogaeth.
Mae angen i’r logo fod naill ai yn JPG maint llawn gwyn neu PNG/SVG, neu lleiafswm o 300x300px, oll gydag ardal eithrio isafswm o 10% ar bob ochr.
Lawrlwytho ffeiliau
-
Tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailddefnyddio yng Nghymru
PDF, 991.64 KB
-
Dadansoddiado’r Ymgynghoriad: Trosolwg
PDF, 1.66 MB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.