Pwrpas yr astudiaeth achos hon yw tynnu sylw at fuddion dull cylchol o ymdrin ag ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu /uwchgylchu, a’r cyfleoedd masnachol y mae hyn yn ei gynnig.

Mae’r term ‘cynaliadwyedd’ yn cynnwys tair egwyddor. Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn ymwneud â rheoli adnoddau naturiol i’w cadw a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae cynaliadwyedd economaidd yn ymdrechu i greu economi wydn a ffyniannus nawr ac ar gyfer y dyfodol. Mae cynaliadwyedd cymdeithasol yn anelu at greu cymdeithas deg, gynhwysol a chydradd, yn cynnwys mynediad at addysg, gofal iechyd a chyflogaeth.

Yn yr astudiaeth achos hon, edrychwn ar yr elusen ‘too good to waste’ yn Rhondda Cynon Taf, a sefydlwyd yn 1995, ac sy’n arddel y datganiad cenhadaeth hwn: “mae too good to waste yn ymroddedig i newid bywydau pobl bob dydd, drwy ddatblygu a gweithredu menter gymdeithasol gynaliadwy sy’n cwrdd ag anghenion y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Mae too good to waste yn cyflawni’r amcan hwn gan hefyd ddwyn elw, gan ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i’r gymuned leol ac i fusnesau, a gwireddu talent y gymuned leol.

Ffeithiau allweddol – toogoodtowaste 2022

  • £1.3m trosiant, ohono yn £88k oedd arian grant
  • 1,065 o dunelli o eitemau trydanol ac eitemau o’r cartref wedi’u dargyfeirio o dirlenwi a mwy na 5 tunnell o CO2 wedi’i osgoi
  • 161,000 o eitemau wedi’u dewis ar gyfer ailddefnyddio.

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • toogoodtowaste and Circular Commercial Opportunities - English

    PDF, 2.72 MB

    Download
  • toogoodtowaste and Circular Commercial Opportunities - Welsh

    PDF, 2.7 MB

    Download

Tags