Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos sut mae Wastesavers yn darparu cyflogaeth leol, yn cyflenwi nwyddau fforddiadwy i’r rhai sydd mewn angen, yn cadw nwyddau’n ddefnyddiol yn hwy, ac yn cynhyrchu incwm drwy uwchgylchu.
Dechreuodd Wastesavers yn 1985 fel grŵp diddordeb amgylcheddol yn hyrwyddo pwysigrwydd ailddefnyddio ac ailgylchu. Heddiw, mae Waste savers yn elusen wedi’i lleoli yng Nghasnewydd, sy’n gweithredu 10 siop ailddefnyddio ledled De Cymru, a’u hamcan yw:
- Lleddfu tlodi drwy ddarparu dodrefn wedi’u hailwampio ac ategolion eraill i’r cartref i drigolion yn ardal de ddwyrain Cymru.
- Hybu addysg o ran agweddau amgylcheddol ailgylchu, a’r angen amdano.
- Hybu addysg o ran sydd o fudd i’r gymuned (i’r graddau hynny y mae amcanion o’r fath yn gwbl elusennol), mewn perthynas â sgiliau galwedigaethol, rhifedd a llythrennedd a sgiliau ymarferol.
Mae’r sefydliad hefyd yn darparu gwasanaethau ychwanegol sydd o fudd i’r gymuned leol ar ffurf gwasanaethau fel y caffi trwsio, llyfrgell cewynnau a gweithdai trwsio beiciau sydd â’r nod o ariannu ei hun yn gyfan gwbl a bod yn ariannol hyfyw. Maent yn darparu gwasanaeth lleol gwerthfawr a chynaliadwy mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol, mewn cytundeb rhannu elw, ac mewn modd sydd o fantais i’r naill fel y llall.
Ffeithiau allweddol – Wastesavers 2022/23
- 1,000 tunnell o dunelli o ddodrefn ac eitemau o’r cartref wedi’u dargyfeirio o dirlenwi
- 188 pobl o bobl yn rhan o Wastesavers - 52 staff, 136 gwirfoddolwr
- £1m+ o incwm wedi’i greu o werthu eitemau ailddefnyddio.
Lawrlwytho ffeiliau
-
Wastesavers - Re-use and Circular Opportunities in Partnership - English
PDF, 1.84 MB
-
Wastesavers - Re-use and Circular Opportunities in Partnership - Welsh
PDF, 1.79 MB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.