Mae amcangyfrif o 80% o ôl-troed carbon GIG Cymru yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r nwyddau a’r gwasanaethau mae’r sefydliad yn eu prynu. Fel rhan o ymgyrch i wyro’r GIG tuag at arferion defnyddio mwy cynaliadwy, a lleihau carbon a gwastraff, mae’n hanfodol bod eitemau fel cadeiriau olwyn yn cael eu cynnal a’u cadw a’u defnyddio i’w llawn botensial.

Mae economi gylchol yn ddewis amgen i’r economi gwneud-defnyddio-taflu llinol sy’n gwneud niwed i’n hamgylchedd. Y nod, yn hytrach, yw cadw adnoddau’n ddefnyddiol cyhyd â phosibl, gan dynnu’r gwerth mwyaf bosibl ohonynt tra maen nhw’n cael eu defnyddio, ac adennill ac ailgynhyrchu nwyddau a deunyddiau ar ddiwedd bob oes gwasanaethu.

Mae modelau gwasanaeth sy’n atgyweirio, cynnal a chadw ac yn ailwampio’n sicrhau bod nwyddau’n cyflawni’r defnydd mwyaf bosibl ac yn cael eu cadw’n ddefnyddiol yn hirach. Mae hyn yn helpu i leihau ôl-troed amgylcheddol carbon y nwyddau a ddefnyddiwn. Mae’r astudiaeth achos hon yn amlinellu llwyddiant Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd GIG Cymru (Posture and Mobility Service PAMS) fel model cylchol enghreifftiol yn y sector gofal iechyd.

Mae dull PAMS yn alinio â Chynllun cyflenwi strategol ar gyfer datgarboneiddio GIG Cymru, y nod ar gyfer sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030, a Strategaeth Mwy nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru, sydd ill dau yn pwysleisio’r rôl y bydd caffael yn y sector cyhoeddus yn ei chwarae mewn cyflawni economi gylchol, carbon isel yng Nghymru.

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • ALAS - Tuag at Economi Gylchol yn GIG Cymru – Atgyweirio ac Adnewyddu Offer Symudedd

    PDF, 275.74 KB

    Download

Tags