Deilliodd yr ymchwil a grynhoir yn yr astudiaeth achos hon o ddymuniad nifer o ysgolion yn Sir Benfro i symud o blastig tuag at ddeunyddiau eraill ar gyfer cyflenwi llaeth i blant ysgol gynradd yn ddyddiol.

Ffeithiau Allweddol

  • Roedd poteli gwydr a phergalau yn cynnig arbedion cost o tua 15–20% dros y poteli plastig a ddefnyddir ar hyn o bryd, a phergalau yw’r opsiwn mwyaf cost-effeithiol.

  • Roedd agosrwydd y gadwyn gyflenwi llaeth yn cael dylanwad sylweddol ar yr effaith amgylcheddol gyffredinol.

  • Pe bai effeithiau logisteg y gadwyn gyflenwi’r un fath, byddai poteli gwydr a phergalau yn rhoi lleihad yn yr effeithiau amgylcheddol o tua 25–30% dros y botel blastig a ddefnyddir ar hyn o bryd, a phergalau fyddai’n cael yr effaith leiaf.

Crynodeb

Deilliodd yr ymchwil a grynhoir yn yr astudiaeth achos hon o ddymuniad nifer o ysgolion yn Sir Benfro i symud o blastig tuag at ddeunyddiau eraill ar gyfer cyflenwi llaeth i blant ysgol gynradd yn ddyddiol.

Archwiliwyd yr effaith amgylcheddol yn nhermau allyriadau nwyon tŷ gwydr (NTG) a’r costau sy’n gysylltiedig â’r amrywiol ddeunyddiau a ddefnyddir i bacio llaeth. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • poteli plastig (y fformat pacio presennol a ddefnyddiwyd fel gwaelodlin);
  • poteli gwydr fel dewis amgen; a
  • pergalau fel dewis amgen (storio llaeth mewn swmp mewn cynhwysydd sy’n ffitio mewn peiriant cyflenwi wedi’i oeri).

Dangosodd yr ymchwil fod poteli gwydr a phergalau yn costio llai fesul dogn o laeth na’r opsiwn plastig, ac mai pergalau sy’n cynnig yr opsiwn mwyaf cost-effeithiol.

At hynny, canfu’r ymchwil mai pergalau sydd â’r allyriadau NTG isaf fesul dogn, yna’r botel blastig ac wedyn y botel wydr. Dangoswyd bod effaith amgylcheddol poteli gwydr yn cael ei ddylanwadu arni’n drwm gan allyriadau NTG cludo’r nwyddau. Roedd y pellteroedd o’r fferm i’r safle potelu ac o’r safle potelu i’r ysgol yn llawer mwy na’r gadwyn gyflenwi leol o boteli plastig a phergalau.

I ddeall mwy am effaith cludiant, modelwyd senario ar gyfer poteli gwydr gyda’r un gadwyn gyflenwi leol â photeli plastig a phergalau. Dangosodd hyn, pe byddai cadwyni cyflenwi lleol yn gallu darparu poteli gwydr, byddai effaith amgylcheddol y fformat deunydd pacio hwn yn llawer llai. Roedd hyn yn parhau i fod ychydig yn uwch na phergalau, ond yn sylweddol is na photeli plastig.

Er bod y data a’r tybiaethau wedi’u seilio ar brofiadau’r ddwy ysgol, maent wedi cael eu haddasu i fod yn fwy cyffredinol pan fo’n bosibl. Fel y nodwyd uchod, un o yrwyr allweddol y canlyniadau yw agosrwydd y gadwyn gyflenwi llaeth. Pan fo’r gadwyn gyflenwi yn sylweddol wahanol i’r hyn a geir yn yr astudiaeth achos hon, mae’n debygol y bydd y canlyniadau, ac felly’r casgliadau, yn wahanol hefyd.

Cefnogi caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • WRAP-opsiynau-pecynnu-llaeth-ar-gyfer-ysgolion-sir-benfro-2019.pdf

    PDF, 255.94 KB

    Download

Tags