10 Medi 2018 Astudiaeth Achos

Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus - Cyflawni nodau llesiant trwy brosesau caffael

Mewn partneriaeth â WRAP Cymru, aeth y GCC i’r afael â phroses o reoli’r effeithiau cynaliadwyedd sy’n gysylltiedig â fframwaith gwasanaethau bwyd newydd, a dangos eu hymroddiad i gyflawni’r nodau Llesiant.

Ffeithiau Allweddol

  • Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario amcangyfrif o £74m y flwyddyn ar wasanaethau bwyd a diod
  • Fel arfer, mae pob tunnell o wastraff bwyd yn costio £2,800 i fusnes ar gyfartaledd
  • Mae lleihau effeithiau gwastraff bwyd yn flaenoriaeth allweddol yn Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Yn 2017, dechreuodd y Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus (GCC) ailwampio ei fframwaith gwasanaethau bwyd a diod cenedlaethol sy’n golygu bod cyflenwi gwasanaethau bwyd a diod ar gael i dros saith deg o sefydliadau’r sector cyhoeddus ledled Cymru. Wedi’i ysgogi gan yr ymrwymiadau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cymru, mae’r GCC wedi gweithio mewn partneriaeth â WRAP i wreiddio gofynion cynaliadwyedd yn y fanyleb tendro a’r broses o werthuso a rheoli contractau. Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos sut y bydd y strategaeth gaffael hon a ystyriwyd yn drylwyr gan y GCC yn gwella cynaliadwyedd y gwasanaethau bwyd a diod a ddefnyddir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Lawrlwytho ffeiliau

  • WRAP-astudiaeth-achos-gcc-2018.pdf

    PDF, 343.4 KB

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.