Yn 2021, comisiynodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (CGYLG), a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru (CGGC) y fenter gymdeithasol Ministry of Furniture (MoF), o Bort Talbot, De Cymru, i osod gofod swyddfa newydd yng Nghaerdydd.

Ffocws y gwaith hwn oedd mwyhau faint o’r stoc ddodrefn presennol y gellid ei ailddefnyddio a’i ddefnyddio at ddibenion newydd, gan anfon lleiafswm o ddeunydd i dirlenwi.

Mewn partneriaeth â Sefydliad y Deillion Merthyr Tydfil (MTIB), creodd MoF ofod gwaith cyfoes, hyblyg, hybrid ar gyfer CLlLC, CGYLG, CGGC a Data Cymru yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd.

Y weledigaeth oedd creu gofod a fyddai’n ategu amrywiaeth eu sectorau gyda chynaliadwyedd yn flaenoriaeth gadarn. Drwy ailddefnyddio, ailgynhyrchu, ac ailgylchu dodrefn o swyddfeydd presennol y sefydliadau, crëwyd nwyddau newydd gyda hyd oes ddisgwyliedig gyfatebol â dodrefn newydd.

Ffeithiau Allweddol

  • 187 o ddarnau o ddodrefn wedi’u harbed rhag mynd i dirlenwi/troi gwastraff yn ynni
  • 96 o ddesgiau newydd wedi’u hailgynhyrchu
  • 250 o loceri a photiau plannu wedi’u hailgynhyrchu
  • 481 o ddarnau o ddodrefn wedi’u creu
  • Ardystiad FSC ar yr holl nwyddau
  • • Lleihad ym milltiroedd danfon y nwyddau
  • 15,861kg o allyriadau CO2e wedi’u hosgoi

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • Caffael dodrefn ‘ail fywyd’ ar gyfer CLlLC a CGGC.pdf

    PDF, 1.01 MB

    Download

Tags