Mae’r ddogfen ganllaw hon yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wireddu economi gylchol i Gymru.

Mae Mwy nag Ailgylchu’n amlygu rôl hollbwysig caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus wrth drawsnewid i economi gylchol, ac mae’n nodi caffael fel lifer allweddol er mwyn cyflawni newid. Gyda gwariant blynyddol o £6bn, mae gan y sector cyhoeddus ddylanwad sylweddol o ran llywio’r farchnad a defnyddio adnoddau’n gynaliadwy fel blaenoriaeth.

Mae’r canllaw ymarferol byr hwn yn cyflwyno Hierarchaeth Caffael Cynaliadwy ynghyd ag egwyddorion arweiniol ac enghreifftiau. Fe’i datblygwyd yn arbennig ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru, a gellir ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau ynghylch prynu nwyddau ac ymwreiddio egwyddorion economi gylchol wrth graidd strategaeth eich sefydliad i gyflawni nodau carbon isel a nodau Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Recordiad gweminar

Cynhaliodd WRAP Cymru weminar ddydd Mercher 30 Mehefin 2021, i drafod y Canllaw Hierarchaeth Caffael Cynaliadwy, ynghyd ag astudiaethau achos.

Mae recordiad o’r gweminar ar gael yma: https://www.youtube.com/watch?v=phgOJEEY6aQ

Sylwer mai yn Saesneg y cynhaliwyd y sesiwn. 
 

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • WRAP-anllawiau-hierarchaeth-caffael-cynaliadwy-20210702.pdf

    PDF, 2.52 MB

    Lawrlwytho

Tagiau

Sectorau

Sector cyhoeddus