Yn 2018, dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda archwilio ffyrdd o arbed arian ac adnoddau, gyda phwyslais ar ganfod ble gellid ailddefnyddio offer yn hytrach na’i ddisodli.

O ganlyniad, mae’r bwrdd iechyd wedi cyflawni arbedion ariannol o £230,000. Mae hyn yn cyfateb i ddargyfeirio 41 o dunelli o wastraff a lleihad o 161 o dunelli o CO2e.

Cyflawnwyd hyn oll drwy ddefnyddio’r llwyfan Warp It – adnodd ar-lein sy’n gweithio fel safle clirio ar gyfer asedau sydd ar gael i’w hailddefnyddio o fewn, a rhwng, sefydliadau.

Mae’r astudiaeth achos hon yn rhoi sylw i’r hyn y gellir ei gyflawni pan fo egwyddorion yr hierarchaeth caffael cynaliadwy’n cael eu rhoi ar waith mewn sefydliad. Mae’r hierarchaeth caffael wedi’i chynllunio i ddangos arfer gorau mewn caffael cynaliadwy, ac ymysg yr opsiynau a ffefrir fwyaf ganddi mae ailddefnyddio ac ailfeddwl am yr angen i brynu. O gael ei roi ar waith yn llwyddiannus, gall y dull hwn arwain at fuddion ariannol ac amgylcheddol fel rhan o ymagwedd economi gylchol.

Nod Strategaeth Mwy nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru yw gwireddu’r economi gylchol yng Nghymru. Un o’r prif gamau gweithredu yn y strategaeth hon yw i’r sector cyhoeddus yng Nghymru flaenoriaethu prynu nwyddau a chynhyrchion wedi’u gwneud o ddeunyddiau wedi’u hailgynhyrchu, eu hatgyweirio, a’u hailgylchu, neu rai a gaiff eu cynhyrchu gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy a charbon isel, fel pren.

Mae GIG Cymru wedi cyflwyno Cynllun Cyflenwi Strategol ar gyfer Datgarboneiddio i sicrhau bod y GIG yn datblygu eu cyfraniadau i Sector Cyhoeddus net sero yng Nghymru. Mae’r ddwy strategaeth hyn yn ei gwneud yn glir bod caffael cynaliadwy’n lifer pwysig ar gyfer cyflawni economi gylchol carbon isel. Gall mabwysiadu adnoddau fel Warp It helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus i wireddu’r nodau hyn. 

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • Hywel Dda_Warp It Cymraeg (2).pdf

    PDF, 449.5 KB

    Lawrlwytho

Tagiau

Sectorau

Sector cyhoeddus