Mae’r ddogfen ganllaw hon yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wireddu economi gylchol i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed datgarboneiddio uchelgeisiol – i leihau allyriadau gan o leiaf 45% erbyn 2030. I gyflawni hyn, mae targed wedi’i osod hefyd i sector cyhoeddus Cymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae’r ddogfen hon wedi’i dylunio i helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus ymwreiddio cynaliadwyedd yn eu prosesau caffael a dewis deunyddiau carbon isel. Mae’n cynnig cyngor ymarferol a dolenni at adnoddau i’w defnyddio – ar gyfer unrhyw un sy’n dylanwadu ar benderfyniadau gwariant – i oresgyn rhwystrau canfyddiadol i gaffael nwyddau cynaliadwy, gan ganolbwyntio ar gynnwys wedi’i ailddefnyddio, ei ailgynhyrchu a’i ailgylchu.

Mae’r ddogfen yn cyflwyno cyfres o wybodaeth am gaffael cyhoeddus sy’n cynnwys nwyddau ailddefnyddiadwy, wedi’u hailddefnyddio a’u hailgynhyrchu, nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch a darpariaeth gwasanaethau. Nod y dulliau awgrymedig canlynol yw manteisio i’r eithaf ar effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ar hyd y cylch oes cyfan.

Mae’r canllaw’n cynnwys chwe adran:

  1. Cyflwyniad: caffael cynaliadwy
  2. Prif rwystrau
  3. Manteision caffael nwyddau cynaliadwy
  4. Camau ymarferol i oresgyn y rhwystrau
  5. Edrych tua’r dyfodol
  6. Adnoddau

Trwy optimeiddio’r ffyrdd rydym yn ailddefnyddio, ailgynhyrchu, ailgylchu a chael gwared â deunyddiau yng ngweithgareddau caffael sector cyhoeddus Cymru benbaladr, gallwn gyflymu’r newid tuag at economi sy’n fwy cynaliadwy ac yn fwy effeithlon gydag adnoddau.

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • Canllaw i’r sector cyhoeddus ar gaffael nwyddau cynaliadwy.pdf

    PDF, 2.21 MB

    Download

Tags