Mae treialon cadwyn gyflenwi WRAP Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r defnydd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu mewn nwyddau sydd eisoes ar y farchnad, wedi arwain at fanteision economaidd ac amgylcheddol sylweddol. Mae'r treialon enghreifftiol hyn hefyd wedi dylanwadu ar lunwyr polisi y tu allan i Gymru i gefnogi prosiectau tebyg.
Problem
Roedd angen mwy o gefnogaeth ar gynhyrchwyr Cymreig i gynyddu eu defnydd o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu a lleihau eu hôl troed carbon.
Ateb
Effaith
GOLWG FANYLACH: Treial cadwyn gyflenwi Advantage Automative
Problem
Nodwyd y sector modurol fel targed allweddol ar gyfer y treialon cadwyn gyflenwi oherwydd pryderon am ansawdd cynnyrch, cysondeb deunyddiau, profi, ardystio, a chadernid y gadwyn gyflenwi.
Ateb
Bu partner arweiniol WRAP Cymru, BIC Innovation, yn gweithio ar y cyd ag Advantage Automotive. Mae'r ddau fusnes wedi'u lleoli yng Nghymru. Roedd Advantage Automotive, cyflenwr haen un* systemau golchi sgriniau, yn awyddus i dreialu'r defnydd o rHDPE yn eu nwyddau i gyflawni eu nodau cynaliadwyedd.
Nodau’r prosiect
- Dangos bod modd defnyddio deunyddiau eilgylch mewn cymwysiadau modurol dan foned car o safbwynt technegol yn ogystal â safbwynt masnachol.
- Nodi cadwyn gyflenwi addas o ddeunydd a oedd yn bodloni'r gofynion technegol penodol ar gyfer y cymhwysiad.
Amcanion allweddol
- Roedd cam cychwynnol y prosiect yn canolbwyntio ar ddewis a dilysu deunydd crai.
- Yna cynhaliodd y prosiect gyfres o brofion cynhyrchu i sicrhau’r gallu i brosesu’r deunydd ynghyd ag ansawdd y cydrannau gorffenedig.
- Roedd cam olaf y prosiect yn ymwneud â gwerthusiad maes o'r rhannau gan Wneuthurwr Offer Gwreiddiol mawr.
Effaith
Dangosodd y treial cadwyn gyflenwi hwn, ar gyfer y cymhwysiad hwn, y gellid disodli deunyddiau crai’n llwyddiannus â deunyddiau 100% eilgylch.
Roedd y deunyddiau eilgylch yn prosesu'n dda ac roedd ganddynt ymddangosiad yr un fath o'i gymharu â'r deunyddiau crai cyfatebol, hyd yn oed ar gyfradd ddisodli o 100%. Roedd sefydlu cyflenwad o ddeunydd o ansawdd dda yn allweddol i'r prosiect hwn gan fod cysondeb hirdymor o ran ansawdd deunyddiau yn hanfodol ar gyfer ei lwyddiant parhaus.
Effaith ychwanegol oedd bod Advantage Automotive, yn dilyn perfformiad rhagorol y deunydd eilgylch, wedi ymestyn y defnydd o'r deunydd i'w cyfresi nwyddau eraill.
* Gall cyflenwr haen 1 gyflenwi'n uniongyrchol i'r Gwneuthurwr Offer Gwreiddiol heb fynd trwy gyflenwyr eraill.
GOLWG FANYLACH: Cynyddu cynnwys eilgylch mewn pecynnau Tarmac
Problem
Nodwyd cyfle sylweddol i gefnogi dau o dargedau Cytundeb Plastigion y DU drwy gynyddu cynnwys eilgylch mewn bagiau agregau a chasglu bagiau ail-law i greu cadwyn gyflenwi gylchol. Yn flaenorol, roedd y bagiau hyn yn cael eu gwneud o 50% plastigion crai a'u llosgi'n neu eu gwaredu mewn safleoedd tirlenwi’n aml ar ddiwedd eu defnyddio.
Ateb
Bu partner arweiniol WRAP Cymru yng Nghymru, Resilience Sustainable Solutions, yn gweithio ar y cyd â Tarmac, i gyflawni'r treial a cheisio ateb hirdymor i'r her hon.
Nodau’r prosiect
- Cyflawni gostyngiad mewn allyriadau carbon drwy ddisodli plastig crai gyda deunydd eilgylch.
- Cynyddu cynnwys eilgylch ôl-ddefnyddiwr mewn deunydd pacio o 50% i 90% gan ddefnyddio pelenni 'jazz' anhryloyw.
Amcanion allweddol
- Cam 1: Cynllunio a Gweithredu (Tachwedd 2022 – Mawrth 2023)
- Cam 2: Gweithgynhyrchu Nwyddau (Ebrill 2023 – Mawrth 2024)
- Cam 3: Economi Gylchol: Casgliadau a Logisteg â Chymhelliant (Gorffennaf – Medi 2024).
Effaith
Helpodd y prosiect hwn i Tarmac gynyddu eu defnydd o gynnwys eilgylch i 90% trwy ei helpu i deunydd eilgylch amgen, ôl-ddefnyddiwr ar brawf. Arweiniodd hyn at arbedion costau sylweddol o 8-10% ac arbedion carbon o 36% fesul tunnell o blastig a ddefnyddiwyd.
GOLWG FANYLACH: Gweithgynhyrchu cyfansoddion plastig/ffibr o Gyfleusterau Adfer Deunyddiau (MRF) a Gweddillion Rhwygo Modurol (ASR) a wrthodwyd
Problem
Er mai prin yw’r data ar faint o ddeunydd eilgylch sy’n cael ei ddefnyddio gan y sector gweithgynhyrchu, ystyrir mai canran isel iawn ydyw, oherwydd rhwystrau yn cynnwys ansawdd, cysondeb ac arloesedd dechnegol mewn ailgylchu.
Ateb
Rheolwyd y prosiect hwn gan bartner arweiniol WRAP Cymru, Nextek Ltd, a bu’n cydweithio ag ailgylchwyr gan gynnwys MBA Polymers Ltd, Fiberight Ltd* ac Ecodek, gwneuthurwr decin cyfansawdd cynaliadwy, i gyflwyno dewisiadau deunyddiau newydd.
Nodau’r prosiect
- I ymgorffori ac arbed deunyddiau plastig o ffrydiau gwastraff a fyddai wedi cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi neu i droi gwastraff yn ynni.
- Disodli hyd at 30% o'r cyfansoddiad terfynol gyda chyfansoddion wedi'u hailfformiwleiddio o ddeunyddiau 'gwastraff'.
Amcanion allweddol
- Nodweddu'r broses MBA Polymer a nodi cyfansoddiad ffrydiau deunyddiau sy'n mynd i safleoedd tirlenwi neu losgi.
- Canolbwyntio ar rag-driniaeth a pharatoi deunyddiau fel proses hollbwysig gyda’r ffrydiau gwastraff gwerth isel sydd wedi bod yn darged i’r prosiect hwn.
- Defnyddio'r deunyddiau wedi'u fformiwleiddio fel porthiant i broses gynhyrchu barhaus i weithgynhyrchu nwyddau wedi’u hallwthio.
Effaith
Trowyd sgil-gynhyrchion y broses ailgylchu ASR a'r ffilmiau MRF a wrthodwyd yn ddecin perfformiad uchel yn Ecodek ac fe’u dadansoddwyd yn erbyn nwyddau a safonau presennol.
Darparodd y treial hwn dystiolaeth gref i lunwyr polisi y gellir defnyddio’r dull hwn fel model ar gyfer rhannau ehangach o ddiwydiannau Cymru. Mae'n creu newid sylfaenol yn y meddylfryd presennol ynghylch datblygu nwyddau newydd a'r adnoddau y gellir eu defnyddio a'u hailddefnyddio i gynhyrchu nwyddau o ansawdd uchel sydd â manteision economaidd ac amgylcheddol.
*Daeth busnes Fiberight Ltd i ben yn 2024.