Crynodeb
Mae WRAP Cymru yn gweinyddu grantiau’r Gronfa Economi Gylchol ar ran Llywodraeth Cymru i fusnesau sy’n ymroddedig i ddefnyddio cynnwys eilgylch neu ailddefnyddio deunyddiau neu nwyddau a fuasai’n mynd yn wastraff fel arall. Roedd Gweithdy Beiciau Caerdydd (GBC) yn ymgeisydd delfrydol am grant o’r fath.
Mae’r astudiaeth achos hon yn amlinellu sut gall grant wedi’i dargedu’n dda helpu sefydliad i ddatblygu ar yr egwyddorion hyn. Roedd cynyddu capasiti’r man gweithio a’r cyfleusterau storio yn rhoi hwb i effeithiolrwydd a chyrhaeddiad prosiect GBC, ac arweiniodd hyn at gynyddu’r nifer o feiciau a gafodd eu hatgyweirio a’u hailddefnyddio a fuasai fel arall wedi mynd i gael eu sgrapio.
Ffeithiau Allweddol
Galluogodd cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy law Cronfa Economi Gylchol WRAP Cymru i Gweithdi Beiciau Caerdydd ehangu eu gweithrediadau, gan arwain at:
• Cynnydd o 10 tunnell mewn beiciau wedi’u hatgyweirio
• 600 beic ychwanegol ar gael i’w defnyddio
• Creu un swydd lawn-amser barhaol newydd
Lawrlwytho ffeiliau
-
Astudiaeth Achos Gweithdy Beiciau Caerdydd Tachwedd 2021.pdf
PDF, 536.88 KB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.