Bwriad yr adnodd hwn yw helpu cefnogi mwy o gydweithio rhwng y nifer fawr o fusnesau sy’n ffurfio’r sector papur yng Nghymru.
Mae’n rhoi’r cyfle i fusnesau ehangu mwy ar eu dealltwriaeth o’r sector papur yng Nghymru.
Gall defnyddwyr:
- Hidlo yn ôl enw cwmni
- Archwilio’r nifer o fusnesau ym mhob awdurdod lleol
- Archwilio’r tunelledd a’r math o ddeunydd a gaiff ei drin ar safleoedd penodol
- Archwilio cyfleoedd i gyrchu porthiannau papur a dod o hyd i allfeydd ar gyfer gwastraff papur yng Nghymru
Diffiniadau a sut i’w ddefnyddio:
Math o safle: Wedi’i gategoreiddio gan caniatadau NRW a god dosbarthiad diwydiannol Safonol (SIC) gweithgareddau economaidd i nodi cwmnïau yng Nghymru a allai ddefnyddio neu drin deunydd papur eilgylch yn ddichonadwy. Cliciwch ar fath penodol o safle i hidlo.
Allbynnau Deunydd: Cwmnïau a nodwyd wrth gasglu data sydd â deunyddiau papur sy’n barod i’r farchnad. Cliciwch ar fath penodol o bapur i hidlo.
Gwastraff a Dderbynnir: Cwmnïau a nodwyd wrth gasglu data sydd â’r gallu i gymryd deunyddiau papur penodol. Cliciwch ar fath penodol o bapur i hidlo.