Mae’r materion ansawdd dŵr sy’n wynebu dyfroedd dalgylchoedd Gwy ac Wysg wedi’u hymchwilio a’u dogfennu’n dda a chânt eu hadrodd arnynt yn aml yn y wasg leol, ranbarthol a chenedlaethol. Nid yw’r ddogfen fer hon yn ceisio dangos yr angen i wneud newidiadau i’r dull o reoli maetholion yn y dalgylch, ond yn hytrach mae’n dechrau o’r pwynt o dderbyn bod angen gwneud newidiadau i arferion presennol ac edrych ar yr hyn sy’n cael ei wneud eisoes yn ogystal â chynnal adolygiad byr o ble mae problemau tebyg ar raddfa dalgylch wedi cael sylw mewn gwledydd eraill.

Mae'r dystiolaeth sydd ar gael felly yn dangos yn glir iawn bod y defnydd o faetholion yn y dalgylch yn llinol iawn ar hyn o bryd, gyda cholledion i'r amgylchedd yn achosi problemau ansawdd dŵr difrifol. Mae symud i ddull mwy cylchol yn gofyn am ddull meddwl trwy systemau sy'n mynd i'r afael â sawl agwedd:

  • Parhau a chyflymu’r gwaith parhaus ar gynllun gweithredu Maetholion yr ACA a sicrhau bod adnoddau ar gael i’r cynllun gweithredu ffosffad a’i fod wedi’i gwblhau.
  • Gweithio gyda CNC a rheoleiddwyr eraill i sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio presennol yn sicrhau bod maetholion yn cael eu defnyddio mewn modd cylchol effeithiol. Gallai hyn olygu sicrhau gorfodaeth effeithiol o’r rheoliadau presennol yn ogystal ag edrych tua’r dyfodol i ganfod newidiadau posibl ar gyfer y dyfodol agos a’r tymor canol.
  • Dysgu gan wledydd a rhanbarthau lle mae rheoli maetholion yn gylchol yn arfer normal gan gysylltu’n uniongyrchol â llunwyr polisi a sefydliadau allweddol yn yr Iseldiroedd ac yn Fflandrys
  • Comisiynu astudiaeth ddichonoldeb techno-economaidd i archwilio'r opsiynau posibl gorau i Gymru.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • Cylcholdeb Maetholion Dalgylchoedd Afonydd Gwy AC Wysg

    PDF, 2.1 MB

    Lawrlwytho

Tagiau