Mae lleihau faint o wastraff bwyd sy’n digwydd ar draws y gadwyn gyflenwi ac yn ein cartrefi yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a WRAP Cymru.

Mae Ymrwymiad Courtauld 2025 - cytundeb gwirfoddol uchelgeisiol sy’n dod â sefydliadau at ei gilydd ar draws y system fwyd, o’r cynhyrchwr i’r defnyddiwr, i wneud cynhyrchu a defnyddio bwyd a diod yn fwy cynaliadwy - wedi gosod targed i leihau gwastraff bwyd o 20% erbyn 2025, o’r fferm i’r fforc.  Nod ymgyrch Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff WRAP yw helpu i fynd i’r afael â gwastraff bwyd ar lefel cartrefi, lle mae 70% o wastraff bwyd ar ôl gât y fferm yn digwydd yn y DU.

Fel rhan o astudiaeth fwy i ddiweddaru amcangyfrifon o wastraff bwyd cartrefi ar lefel y DU, mae WRAP wedi defnyddio data o ymchwil gyfansoddol i wastraff trefol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, i gynhyrchu amcangyfrifon newydd ar gyfer gwastraff bwyd cartrefi yng Nghymru ac asesiad o newid dros amser.

Mae’r dadansoddiad yn dangos bod gostyngiad sylweddol wedi bod mewn gwastraff bwyd cartrefi yng Nghymru rhwng 2009 a 2015.  Roedd gostyngiad o 24,000 tunnell (oddeutu 11%) mewn gwastraff bwyd cartrefi osgoadwy, sy’n gyfwerth i werth oddeutu £70 miliwn o fwyd yn peidio â chael ei wastraffu bob blwyddyn. Byddai’r arbedion CO2 oddeutu 105,000 tunnell y flwyddyn. Mae tystiolaeth hefyd bod lefelau gwastraff bwyd cartrefi’n is yng Nghymru na gweddill y DU.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • Gwastraff Bwyd o Gartrefi yng Nghymru - 2015

    PDF, 346.53 KB

    Lawrlwytho

Tagiau

Mentrau

Bwyd a diod