31 Mawrth 2023 Offeryn

Adnodd Mapio Economi Gylchol Plastigion i Gymru

Bwriad yr adnodd hwn yw helpu cefnogi mwy o gydweithio rhwng y nifer fawr o fusnesau sy’n ffurfio’r sector plastigion yng Nghymru. 

Mae’n rhoi’r cyfle i fusnesau ehangu mwy ar eu dealltwriaeth o’r sector plastigion yng Nghymru.  

Gall defnyddwyr:

  • Hidlo yn ôl enw cwmni 
  • Archwilio’r nifer o fusnesau ym mhob awdurdod lleol
  • Archwilio’r tunelledd a’r math o ddeunydd a gaiff ei drin ar safleoedd penodol
  • Archwilio cyfleoedd i gyrchu porthiannau plastig a dod o hyd i allfeydd ar gyfer gwastraff plastig yng Nghymru

Diffiniadau a sut i’w ddefnyddio:

Math o Safle: Wedi’i gategoreiddio gan caniatadau NRW a god dosbarthiad diwydiannol Safonol (SIC) gweithgareddau economaidd i nodi cwmnïau yng Nghymru a allai ddefnyddio neu drin deunydd plastig eilgylch yn ddichonadwy. Cliciwch ar fath penodol o safle i hidlo.

Allbynnau Deunydd: Cwmnïau a nodwyd wrth gasglu data sydd â deunyddiau plastig sy’n barod i’r farchnad. Cliciwch ar fath penodol o blastig i hidlo.

Gwastraff a Dderbynnir: Cwmnïau a nodwyd wrth gasglu data sydd â’r gallu i gymryd deunyddiau plastig penodol. Cliciwch ar fath penodol o blastig i hidlo.