Mortat Tub

Defnyddio Cynnwys Eilgylch – Prosiect Arddangos

Diweddariad cynnydd (Ionawr 2022)

Cynhyrchion Tybiau Morter ar gyfer y Sector Adeiladu wedi'u Creu'n Llwyddiannus Gan Ddefnyddio Plastig Eilgylch

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae WRAP wedi cydweithio’n llwyddiannus â Resilience Sustainable Solutions, Corilla Plastics, Green Edge Applications a Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu cynhyrchion tybiau morter ar gyfer y sector adeiladu gan ddefnyddio plastig eilgylch.

Mae llwyddiannau rhagorol y prosiect hwn yn cynnwys datblygu twb morter o ddeunydd 100% eilgylch, a thwb arall sy’n cynnwys 75% deunydd eilgylch.

Datblygwyd model economi gylchol drwy olrhain y tybiau ar hyd eu hoes gan ddefnyddio codau QR a thechnolegau olrhain asedau sy’n bodoli eisoes.

Yn ychwanegol at hyn, mae’r bartneriaeth wedi sefydlu opsiwn ailgylchu dolen gaeedig ar gyfer cynnyrch a oedd yn arfer mynd i dirlenwi ar ddiwedd ei oes. Mae gan hyn y potensial i ddargyfeirio mwy na 30,000 o unedau a gynhyrchir gan Corilla, sef tua 600 tunnell o wastraff, o dirlenwi bob blwyddyn.

Er gwaethaf yr wybodaeth gynyddol ynghylch effeithiau niweidiol plastigion ar yr amgylchedd, a chonsensws fod angen defnyddio llai ohono, nid yw gweithredoedd defnyddwyr na chynhyrchwyr yn y diwydiant adeiladu’n adlewyrchu hyn hyd yma.

Canfu’r bartneriaeth 700 o dybiau morter wedi’u defnyddio a oedd ar eu ffordd i dirlenwi neu losgi. I osgoi cael gwared arnynt, datblygwyd perthynas gyda rhanddeiliaid allweddol ar hyd y gadwyn werth, i gasglu ac ailgylchu’r tybiau hyn a chynhyrchu tybiau morter o’r newydd.

Drwy’r prosiect, datblygwyd cynnyrch diogel, gwydn, isel ei garbon, a’n gobaith yw bod hwn yn gam amserol tuag at fodloni’r galw ar y farchnad am garbon corfforedig yn y gadwyn gyflenwi. Mae’r buddion carbon a ddaw o ddefnyddio cynnwys eilgylch yn glir drwy’r arbedion carbon. Dangosodd pob twb a wnaed o blastig eilgylch arbediad o fwy na 18,000kg cyfatebol i garbon deuocsid.

Er mwyn goresgyn canfyddiadau ynghylch y rhwystrau technegol, bydd WRAP yn adrodd ar wydnwch y cynhyrchion hyn o’u cymharu â nwyddau crai cyn bo hir.

Gellir cymhwyso canfyddiadau’r treial hwn i unrhyw broses weithgynhyrchu i gefnogi cyflwyno modelau economi gylchol tebyg, yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd. Mae’r prosiect yn dangos effeithiolrwydd tybiau plastig eilgylch ac mae’n annog defnyddwyr y sector adeiladu i newid i ddefnyddio nwyddau plastig eilgylch.

Black Mortar Tub

Tybiau Un Haen 250ltr a Gynhyrchwyd

Nol i Prosiectau Arddangos