Defnyddio Cynnwys Eilgylch – Prosiect o fewn y gadwyn gyflenwi

Y cynnydd diweddaraf (Mehefin 2021)

Cynwysyddion nwyddau peryglus wedi’u cynhyrchu’n llwyddiannus gan ddefnyddio 50% cynnwys eilgylch

Llwyddodd y treial a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i gynnwys polymer eilgylch ôl-gwsmer (post-consumer recycled/PCR) mewn cynwysyddion ar gyfer cludo nwyddau peryglus. Mae resinau eilgylch, ac wedi’u diarogli o ansawdd uchel wedi cael eu defnyddio i gynhyrchu cynwysyddion ar gyfer y lefel uchaf o ardystiad gyda’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r resinau hyn wedi cael eu treialu ar gyfraddau o 30% a 50% mewn jericans 20 litr y gellir eu pentyrru – cynwysyddion gwydn ar gyfer hylifau – ac mewn cynwysyddion bychain pum litr. Rhoddwyd y cynwysyddion 20 litr drwy brofion a oedd yn efelychu rhai’r Cenhedloedd Unedig i asesu eu perfformiad yn erbyn cynwysyddion a gynhyrchwyd gan ddefnyddio polymer crai. Roedd hyn yn cynnwys profion disgyn, profion gollwng aer a hydrolig, profion pentyrru a phrawf i asesu gwydnwch yn erbyn craciau straen amgylcheddol (environmental stress-crack resistance/ESCR). Rhoddwyd y cynwysyddion pum litr ar brawf i asesu ESCR hefyd.

Pasiodd pob sampl yr holl brofion, gan ddangos bod ychwanegu cynnwys PCR i gynwysyddion nwyddau peryglus, a ddyluniwyd i’r lefel uchaf o ardystiad gan y Cenhedloedd Unedig, yn ddichonadwy ar 30% a 50%.

Gyda’r Dreth Pecynnau Plastig ar y gorwel, a’r economi gylchol bellach wedi’i hymwreiddio yn nodau a thargedau’r rhan fwyaf o sefydliadau, mae’r canlyniadau hyn yn garreg filltir arwyddocaol.

Mae’r cynwysyddion nwyddau peryglus wedi’u cynllunio i wynebu gofynion llymaf y diwydiant cemegion, ac mae hyn wedi atal llesteirio gwerthuso plastigion eilgylch yn y gorffennol. Os caiff y resinau PCR o ansawdd uchel hyn eu cymeradwyo, bydd yn caniatáu i lawer mwy o gwmnïau ddefnyddio plastigion eilgylch mewn cyfuniadau o ddeunyddiau, yn hytrach na phrynu offer ychwanegol a chynhyrchu nwyddau amlhaenog er mwyn cynnwys deunydd PCR.

Camau nesaf

Cam nesaf y treial fydd ceisio ardystiad gan y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y cynwysyddion 50% PCR. Ar hyn o bryd, meddylir na ellir defnyddio’r deunydd eilgylch hwn i gynhyrchu cynwysyddion i safonau’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer cludo nwyddau peryglus. Derbynnir deunydd wedi’i ail-felino o ddeunydd ôl-gynhyrchu, ond mae pryderon ynghylch cyfaddasrwydd a’r gallu i olrhain polymer PCR. Mae angen hanes hysbys o’r hyn a’i defnyddiwyd ar ei gyfer o’r blaen, oherwydd natur y nwyddau a gaiff eu cludo.

Mae rheoliadau presennol yn ei gwneud yn amlwg bod modd defnyddio deunydd eilgylch, ar yr amod ei fod yn pasio profion deunyddiau pacio perthnasol y Cenhedloedd Unedig. Ni fuasai unrhyw wrthwynebiad os profir ei fod yn perfformio’r un mor effeithiol â deunydd crai.

Gweithdrefnau profi’r Cenhedloedd Unedig

Cynhelir y gweithdrefnau profi y mae’n rhaid i’r cynnwys PCR eu bodloni yn unol â safonau cyhoeddedig derbyniedig yn cynnwys ISO 16104:2003 ac ASTM D4919 – 03(2008).

Cynhelir gwahanol brofion ar ddeunyddiau pacio yn dibynnu ar y nwyddau peryglus dan sylw. Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig wedi dosbarthu’r holl nwyddau peryglus i un o dri ‘Grŵp Pacio’:

  • Grŵp Pacio 1: Perygl Uchel;
  • Grŵp Pacio 2: Perygl Canolig; a
  • Grŵp Pacio 3: Perygl Isel.

Mae’r profion y mae angen eu bodloni i gael cymeradwyaeth y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys profion disgyn, pentyrru, gollwng, a phwysedd hydrostatig / gwagle.

Yn dilyn ein profion yn efelychu rhai’r Cenhedloedd Unedig, mae nawr angen inni brofi’n ffurfiol bod y resinau PCR a ddefnyddiwyd yn ein treial yn ddibynadwy, ac yn gyson o un swp i’r llall. Felly, mae nifer o brofion ar wahanol sypiau ar y gweill. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno, ynghyd ag adroddiad prawf y Cenhedloedd Unedig llawn, i’r Asiantaeth Ardystio Cerbydau i’w ystyried. Y gobaith yw y bydd ein cynwysyddion nwyddau peryglus 50% PCR yn pasio pob prawf ac yn cael eu cyhoeddi’n ‘becynnau wedi’u cymeradwyo gan y Cenhedloedd Unedig’.

Mae defnyddio PCR mewn cynwysyddion i safon y Cenhedloedd Unedig yn gam mawr ymlaen yn yr economi gylchol; yn rhoi’r cyfle i gynhyrchwyr ar draws Cymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt leihau eu dibyniaeth ar bolymerau crai.

Yn ôl i’r Prosiectau o fewn y gadwyn gyflenwi