Defnyddio plastig eilgylch, lleihau costau, a rhoi hwb i refeniw – astudiaeth achos JC Moulding.

Crynodeb

Mae lleihau costau heb gyfaddawdu ar ansawdd yn ganlyniad busnes ardderchog. Ychwanegwch y cyfle i greu nwyddau newydd ac agor marchnadoedd newydd – oll gan leihau ôl troed carbon – a dyna ichi senario ddelfrydol i unrhyw gwmni. Dewisodd JC Moulding arddel dull ‘economi gylchol’ i’w busnes, a thrwy hynny, fe wnaethant greu swyddi newydd, arbed arian a chynyddu’r plastigion eilgylch maen nhw’n eu defnyddio. Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos sut mae dull o’r fath yn gallu llwyddo’n fasnachol ac yn amgylcheddol drwy weithio gyda deunyddiau eilgylch, ailddefnyddio ac ailgynhyrchu. Mae hefyd yn dangos sut gall grant wedi’i gynllunio a’i dargedu’n dda sbarduno newid cadarnhaol.

Ffeithiau Allweddol

Gyda’r cymorth ariannol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Economi Gylchol WRAP Cymru, llwyddodd JC Moulding i ymgorffori mwy o gynnwys eilgylch yn eu hamrywiaeth o nwyddau wedi’u teilwra, gan gynyddu capasiti cynhyrchu a manteisio ar ffrydiau refeniw ychwanegol.

Yn ystod y tair blynedd nesaf, disgwylir i hyn arwain at:

  • creu 6 swydd newydd
  • arbedion cost o £168,000
  • cynnydd sylweddol yn refeniw’r busnes
  • defnyddio 756 o dunelli o blastigion PP ac ABS eilgylch
  • 503 o dunelli o arbedion CO2

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • WRAP-wcb210-cef-jcmouldings-astudiaeth-achos-2021.pdf

    PDF, 498.74 KB

    Lawrlwytho

Tagiau

Sectorau

Cynhyrchwyr