Cymru yn Ailgylchu: Bydd Wych. Ailgylcha. Hydref 2024: Asedau statig wedi'u haddasu ar gyfer awdurdodau lleol


Os ydych yn awdurdod lleol, fe welwch yma’r asedau statig rydym wedi’u haddasu ar eich rhan, i ddangos eich fersiwn leol eich hun o’r logo ‘ailgylchu’.

Paratowch am ‘rownd’ nesaf ymgyrch ‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ sy’n lansio ar ddydd Llun 14 Hydref, jyst mewn pryd ar gyfer Wythnos Ailgylchu ac yna Calan Gaeaf. Fe’i cynhelir am dair wythnos, tan ddydd Sul 3 Tachwedd.

Ymgyrch ‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ yw ymdrech gyfunol fwyaf erioed Cymru i roi hwb i ni tuag at rif 1 am ailgylchu. Mae’n cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff bwyd a chynyddu ailgylchu, ac yn helpu i baratoi’r ffordd tuag at ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.

Gyda gwastraff bwyd gallwn gael yr effaith fwyaf: Mae chwarter y bin sbwriel cyffredin yn dal i fod yn fwyd a gallai 80% o hwnnw fod wedi'i fwyta, gan gostio £89 y mis i'r cartref 4-person cyffredin.

Bydd yr ymgyrch yn grymuso ac yn ysbrydoli oedolion ifanc a theuluoedd yng Nghymru i ddefnyddio’r holl fwyd maen nhw’n ei brynu fel na chaiff dim byd ei wastraffu, i arbed amser ac arian iddyn nhw, gan ailgylchu’r tameidiau na ellir eu bwyta i helpu creu ynni adnewyddadwy. Dyma’r prif gamau y gallant eu cymryd i’n cael ni i Rif 1!

Ymunwch â'n Hymgyrch Wych trwy hyrwyddo'r ymgyrch.

Mae embargo ar asedau’r ymgyrch tan ddydd Llun 14 Hydref 2024.

Lawrlwytho ffeiliau

05. Asedau llonydd wedi’u teilwra – ar gyfer awdurdodau lleol

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf
23 Medi 2024
Fformatau ffeiliau
zip
Deunyddiau
Hawlfraint
WRAP