Mae’r ddogfen ganllaw hon yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wireddu economi gylchol i Gymru. Nod y canllaw hwn yw helpu cleientiaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat a chontractwyr:

  • Ystyried yr effeithiau carbon oes gyfan sy'n gysylltiedig a phrynnu asedau adeiledig, eu dyluniad a'u hadeiladu, ac yn enwedig, dewis deunyddiau gyda charbon corfforedig is ar hyd oes yr ased adeiledig.
  • Gwella cymhwysiad canlyniadau economi gylchol.
  • Gwella aildefnyddio o ansawdd uchel, ailgylchu, ac osgoi anfon gwastraff i dirlenwi.
  • Diffinio'r gofynion caffael perthnasol yn glir a chyflwyno sut y disgwyliwch i'ch cadwyn gyflenwi ymateb.

Mae gan yr amgylchedd adeiledig ran bwysig i’w chwarae wrth gefnogi Cymru i fod yn genedl ddiwastraff, carbon sero net, sy’n defnyddio adnoddau un blaned erbyn 2050. Mae lleihau’r effeithiau carbon corfforedig sy’n codi o’r gylched adeiladu – yn cynnwys cyrchu, cynhyrchu a defnyddio deunydd crai, a gwaredu nwyddau adeiladu – yn elfen hollbwysig wrth leihau effaith garbon gyflawn Cymru. Gall caffael ar hyd cylch oes yr amgylchedd adeiledig, o’r camau dylunio, adeiladu, ailwampio, dymchwel neu reoli cyfleusterau alluogi lleihad yn yr effeithiau hyn, drwy roi egwyddorion hierarchaeth caffael cynaliadwy ar waith.

Mae'r amgylchedd adeiledig yn cyfrif am 39% o allyriadau carbon yn fyd-eang. Mae gwaith adeiladu a deunyddiau yn unig yn cynrychiloi 11% o allyriadau'n fyd-eang. Er bod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud o ran effeithlonrwydd ynni gweithredol adeiladu, mae cydnabyddiaeth gynyddol o'r angen i fynd i'r afael a charbon corfforedig - hynny yw, yr effeithiau carbon sy'n deillio o gloddio, prosesu a chludo deunyddiau a gwaith adeiladu. Mae deunyddiau adeiladu yn cyfrif am hanner y deunyddiau crai a ddefnyddir yn Ewwrop. Mae gwastraff adeiladu a dymchwel yn cynrychioli traean o holl wastraff. Felly, mae deunyddiau adeiladu yn dangos potensial anferthol ar gyfer cefnogi newid tuag at economi gylchol.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • Caffael Cylchol Carbon Isel sy'n Defnyddio Adnoddau'n Effeithlon yn y Diwydiant Adeiladu

    PDF, 6.92 MB

    Lawrlwytho

Tagiau

Sectorau

Cynhyrchwyr