Pecyn adnoddau HBCG: Fideos

Rydym wedi datblygu set o fideos byrion fel riliau i’w defnyddio ar eich sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae pob fideo yn dangos rhai o’r ymddygiadau syml y bwriadwn annog dinasyddion i’w mabwysiadu fel rhan o’r ymgyrch 'Gwneud i'ch bwyd fynd ymhellach':

  1. Coginio ychydig mwy i swper i’w ddefnyddio amser cinio’r diwrnod wedyn, a’i oeri a’i storio’n gywir yn yr oergell
  2. Aildwymo bwyd dros ben yn ddiogel yn y microdon ar gyfer cinio hawdd a chyflym
  3. Oeri, labelu a storio swper dros ben yn ddiogel yn y rhewgell
  4. Dadrewi ac aildwymo bwyd dros ben yn ddiogel yn y microdon
  5. Ychwanegu tafelli pizza dros ben at becyn bwyd ar gyfer y diwrnod canlynol
  6. Oeri, labelu a rhewi cig wedi’i goginio dros ben yn gywir
  7. Dadrewi cig wedi’i goginio’n ddiogel yn y microdon neu’r ffwrn
  8. Aildwymo cig wedi’i goginio’n ddiogel yn y microdon neu’r ffwrn
  9. Aildwymo sglodion tecawê dros ben yn ddiogel ac ychwanegu cynhwysion eraill i wneud cinio hawdd a chyflym

Mae’r fideos hyn yn barod i’w defnyddio ar Facebook, Instagram a Twitter. Maen nhw ar gael ar fformat 1:1 ar gyfer Facebook a Twitter, a fformat 9:16 ar gyfer Instagram. Maent ar gael gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg ill dau. Does dim siarad ynddynt.

Os hoffech ychwanegu capsiynau mewn ieithoedd eraill, cysylltwch â ni ar lfhw@wrap.org.uk, os gwelwch yn dda.

Fideos ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol