twice as nice pizza slice

Pecyn Adnoddau Hoffi Bwyd Casau Gwastraff

Mae Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff (HBCG) wedi creu pecyn adnoddau newydd i awrdudodau lleol sydd wedi’i ddylunio i’ch helpu wrth gyfathrebu â dinasyddion ynghylch atal gwastraff bwyd.

Yn y pecyn adnoddau hwn, fe welwch y theori sy’n sail i ddatblygu ein hymgyrchoedd, dirnadaethau, a chyfres o asedau difyr, hawdd eu defnyddio a fydd yn helpu i addysgu a symbylu dinasyddion ledled Cymru i leihau gwastraff bwyd drwy fanteisio i’r eithaf ar y bwyd y maen nhw’n ei brynu. Os gwnawn ni oll chwarae ein rhan, gallwn helpu i annog dinasyddion i leihau allyriadau CO2 gan hefyd arbed amser ac arian iddyn nhw.

Gweler isod dolen i'r pecyn adnoddau a'r asedau canlynol i lawrlwytho a defnyddio i creu ymgyrch 'Gwneud i'ch bwyd fynd ymhellach' eich hunain: 

  • Fideos ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn dangos ymddygiadau syml i symbylu dinasyddion i wneud eu fwyd mynd ymhellach. Mae 9 fideo byr, fel riliau, pob un ar gael ar fformat 1:1 a 9:16 ac yn Gymraeg a Saesneg.
  • Negeseuon i chwalu mythau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol (yn Gymraeg a Saesneg) sy’n ymdrin â chwestiynau cyffredin ynghylch rheoli gwastraff bwyd a darluniau i gyd-fynd â phob neges. 
  • Posteri yn barod i’w gosod o amgylch eich swyddfeydd neu mewn lleoliadau allanol fel canolfannau hamdden a llyfrgelloedd. Mae 4 poster wahanol, pob un ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. 
  • Asedau llonydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol sy'n barod i'w defnyddio ar Facebook, Instagram a Twitter. Mae 4 ased wahanol, pob un ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • Baner gwefan sy'n barod i'w defnyddio ar eich gwefan. Ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.  
  • Canllaw hawdd ei ddilyn os hoffech ychwanegu eich brandio eich hunain i'r asedau. 

Ardaloedd

DU Cymru

Deunyddiau

Gwastraff bwyd

Math

Pecyn cymorth

Ymgyrchoedd

Hoffi Bwyd Casau Gwastraff

Pecyn adnoddau

Lawrlwytho y pecyn adnoddau i dysgu mwy am ymgyrch 'Gwneud i dy fwyd fynd ymhellach' a sut i defnyddio'r asedau.

Negeseuon a ddarluniau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

Fideos

Asedau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

Posteri

Baner gwefan

Canllaw ar gyfer teilwra asedau