Mae’r Nodyn Cynghori hwn wedi’i ddylunio i roi cyngor i ddylunwyr safleoedd gwastraff, gweithredwyr safleoedd gwastraff, swyddogion draenio awdurdodau lleol yng Nghymru, a chyrff cymeradwyo systemau draenio cynaliadwy (sustainable drainage system/SuDS) (sustainable drainage system approval bodies/SAB), ar gymhwyso gofynion SuDS yng Nghymru, yn benodol ar gyfer safleoedd gwastraff.

Nod y ddogfen hon yw darparu arweiniad ynghylch cymwyseddau ymarferol a ffactorau i’w hystyried, a gellir ei defnyddio yng nghyd-destun datblygu safleoedd gwastraff newydd a hefyd wrth ailddatblygu safleoedd presennol.

Canllaw anstatudol, annhechnegol yw’r Nodyn Cynghori hwn. Mae’n adlewyrchu’r gyfraith ac arfer yng Nghymru ac nid yw’n uniongyrchol berthnasol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Ei bwrpas yw darlunio atebion posibl i safleoedd gwastraff ar gyfer cydymffurfio â’u trwyddedau a chyflawni cydymffurfiaeth SuDS. Pe byddai gwrthdaro rhwng y Nodyn Cynghori hwn a dogfennau statudol, dylid rhoi blaenoriaeth i’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau statudol.

Mae gweddill y Nodyn Cynghori hwn yn cynnwys:

  • eglurhad o’i gefndir, ei nodau a’i amcanion (rhan 2.0);
  • diffiniad o safle gwastraff (rhan 3.0);
  • cyngor SuDS sy’n benodol i safleoedd gwastraff ar gyfer pob un o’r safonau (rhan 4.0);
  • sylwadau i gloi (rhan 5.0); a
  • crynodeb o’r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a gynhaliwyd i oleuo cynhyrchu’r Nodyn Cynghori hwn i fwyhau cywirdeb (rhan 6.0).

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • Nodyn Cynghori ar Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS)

    PDF, 1.86 MB

    Lawrlwytho

Tagiau