Datblygwyd yr eiconograffeg ar gyfer ffrydiau deunyddiau i ddechrau yn 2004 i gefnogi brandio’r ymgyrch cenedlaethol Recycle Now (ac yn ddiweddarach Cymru yn Ailgylchu), helpu i godi ymwybyddiaeth am y gwahanol fathau o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu a hyrwyddo gwasanaethau ailgylchu lleol drwy gynnig gwedd a theimlad cyson. Mae’r eiconau hyn yn adnabyddus yn eang ac fe’i defnyddir ar draws gwasanaethau ailgylchu yn genedlaethol.
Yn bennaf, mae eiconau’r ffrydiau gwastraff yn cynrychioli’r eitemau mwyaf cyffredin y gellir eu hailgylchu. Mae gwahanol opsiynau eiconau ar gael fel bod modd eu teilwra i weddu i faint a siâp y lle sydd ar gael ar y sianel neu’r caledwedd ble defnyddir yr eiconau.
Mae’r eiconau’n rhoi set o arwyddion ymarferol sy’n dangos beth ellir ei ailgylchu a gellir eu defnyddio at sawl diben, yn cynnwys:
- Cyfathrebu gan awdurdodau lleol
- Byrddau gwybodaeth ac arwyddion ar safleoedd danfon a chanolfannau gwastraff y cartref ac ailgylchu
- Gosod gwybodaeth ar gynwysyddion drwy ddull ffoil poeth
- Sticeri a thagiau biniau
- Labeli cynwysyddion
- Hysbysebu oddi cartref
- Gwefannau awdurdodau lleol
- Cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol
- Lifrai cerbydau.
Download files
By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.
These files may not be suitable for users of assistive technology.
Material Stream Icon Guidelines
-
Welsh
PDF, 7.09 MB
-
English
PDF, 7.09 MB