Cymru yn Ailgylchu: Bydd Wych. Ailgylcha. asedau ymgyrch Hydref 2024


Paratowch am yr ymgyrch ‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ nesaf sy’n lansio ar ddydd Llun 14 Hydref, jyst mewn pryd ar gyfer Wythnos Ailgylchu ac yna Calan Gaeaf! Bydd yr ymgyrch yn rhedeg am 3 wythnos tan ddydd Sul 3 Tachwedd.

Ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. yw ymdrech gyfunol fwyaf erioed Cymru i roi hwb i ni tuag at rif 1 am ailgylchu. Mae’n cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff bwyd a chynyddu ailgylchu, ac yn helpu i baratoi’r ffordd tuag at ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.

Gyda gwastraff bwyd gallwn gael yr effaith fwyaf: Mae chwarter y bin sbwriel cyffredin yn wastraff bwyd, a gallai 80% o hwnnw fod wedi’i fwyta, gan gostio £84 y mis i'r cartref 4-person cyffredin.

Bydd yr ymgyrch yn grymuso ac yn ysbrydoli oedolion ifanc a theuluoedd yng Nghymru i ddefnyddio’r holl fwyd maen nhw’n ei brynu fel na chaiff dim byd ei wastraffu, i arbed amser ac arian iddyn nhw, gan ailgylchu’r tameidiau na ellir eu bwyta i helpu creu ynni adnewyddadwy. Dyma’r prif gamau y gallant eu cymryd i’n cael ni i Rif 1!

Ymunwch â'n Hymgyrch Wych trwy hyrwyddo'r canlynol:

  • Lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Partneriaid i ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan.
  • Dewiswch yr adnoddau ar gyfer eich cynulleidfaoedd allanol a gweithwyr sy'n gweithio i'ch sianeli.
  • Helpwch i wneud Cymru yn brif ailgylchwr y byd! 
     

Cyfnod yr ymgyrch: Dydd Llun 14 Hydref i ddydd Sul 3 Tachwedd 2024.

Mae embargo ar asedau’r ymgyrch tan ddydd Llun 14 Hydref 2024. 

Lawrlwytho ffeiliau

01. Pecyn Adnoddau Partneriaid

02. Yr addewid a fideo’r gystadleuaeth

03. Cynnwys fideo’r ymgyrch

04.  Asedau wedi’u hanimeiddio’r ymgyrch – Facebook, Instagram, TikTok ac X

05. Asedau llonydd i'w teilwra ac yn barod i'w defnyddio – Facebook, Instagram, X a sgriniau digidol

06. Calendr cyfryngau cymdeithasol yr ymgyrch

07. Posteri

08. Erthygl i’w theilwra a syniadau rysetiau

09. Adnoddau ar gyfer y gweithle

10. Llunwaith templed lifrai cerbydau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf
7 Hydref 2024
Fformatau ffeiliau
pdf, zip, xlsx, docx, pptx
Deunyddiau
Hawlfraint
WRAP