Cymru Yn Ailgylchu: Bydd Wych. Ailgylcha. Asedau Ymgyrch Mawrth 2025

Paratowch ar gyfer ymgyrch y Gwanwyn ar gyfer ‘Bydd Wych. Ailgylcha.'  

Mae ‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ yn lansio ddydd Gwener 28 Chwefror, y diwrnod cyn Dydd Gŵyl Dewi. Mae ymgyrch Gwanwyn 2025 yn llawn asedau a gweithgareddau difyr sydd wedi'u cynllunio i gydfynd â dathliadau a digwyddiadau allweddol trwy gydol mis Mawrth. Bydd yr ymgyrch yn rhedeg tan ddydd Sul 23 Mawrth, gyda’r wythnos olaf yn cyd-daro ag Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd (17-23 Mawrth).

Ymgyrch ‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ yw ymdrech gyfunol fwyaf erioed Cymru i roi hwb i ni tuag at Rif 1 yn y byd am ailgylchu. Mae’n cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff bwyd a chynyddu ailgylchu, ac yn helpu i baratoi'r ffordd tuag at ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.

Gyda gwastraff bwyd gallwn gael yr effaith fwyaf: Mae chwarter y bin sbwriel cyffredin yn dal i fod yn fwyd a gallai 80% o hwnnw fod wedi'i fwyta, gan gostio £89 y mis i'r cartref 4-person cyffredin.

Bydd yr ymgyrch yn grymuso ac yn ysbrydoli oedolion ifanc a theuluoedd yng Nghymru i ddefnyddio’r holl fwyd maen nhw’n ei brynu fel na chaiff dim byd ei wastraffu, i arbed amser ac arian iddyn nhw, gan ailgylchu’r tameidiau na ellir eu bwyta i helpu creu ynni adnewyddadwy. Dyma’r prif gamau y gallant eu cymryd i’n cael ni i Rif 1! 

Ymunwch â'n Hymgyrch Wych trwy hyrwyddo'r ymgyrch.

Cyfnod yr ymgyrch: 28 Chwefror i 23 Mawrth 2025

Mae embargo ar asedau’r ymgyrch tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025. 

Lawrlwytho ffeiliau

01. PECYN ADNODDAU

03: ASEDAU WEDI’U HANIMEIDDIO

05: ASEDAU LLONYDD

07: CALENDR CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

08: POSTERI

09: ERTHYGLAU I’W TEILWRA A SYNIADAU RYSEITIAU

10: ADNODDAU A SYNIADAU AR GYFER Y GWEITHLE

11: LLUNWAITH LIFRAI CERBYDAU

12: LLUNWAITH LLOCHESI BYSIAU

13: LLUNWAITH BANERI POLION LAMPAU

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf
18 Chwefror 2025
Fformatau ffeiliau
pdf, zip, xlsx, docx, pptx
Deunyddiau
Hawlfraint
WRAP