Gall awdurdodau lleol a sefydliadau eraill ddefnyddio’r gyfres hon o fideos ac asedau argraffadwy a hoffai annog dinasyddion i ailgylchu mwy o’u gwastraff o’r cartref, gan eu haddysgu am yr hyn sy’n digwydd i’w hailgylchu ar ôl iddynt gael eu casglu.
Ar gyfer pob un o’r saith deunydd ailgylchadwy allweddol a ganlyn, rydym wedi cynhyrchu amryw o asedau i chi eu defnyddio:
- Caniau a thuniau metel
- Poteli a jariau gwydr
- Poteli, potiau a thybiau plastig
- Cardbord
- Papur
- Gwastraff bwyd
- Gwastraff o’r ardd
Mae asedau’n cynnwys:
1. Fideos hyd llawn – dolenni i fewnosod y fideos hyd llawn (tua 5 munud yr un) gydag is-deitlau ar ein sianel YouTube Ailgylchu Cymru, y gallwch eu defnyddio ar eich gwefan a’ch sianeli YouTube. Mae pob fideo yn cwmpasu:
- proses ailgylchu pob deunydd a'i ddefnydd terfynol,
- amnaid i ailgylchu fod yn norm cymdeithasol,
- cyfeiriad at effaith peidio ag ailgylchu ar newid hinsawdd a’r ymdeimlad o golled os na chaiff yr eitemau hyn eu dal/ailgylchu,
- ffaith ailgylchu ar gyfer pob deunydd,
- rhai rhestrau blaenoriaeth ‘ie plîs’ / ‘dim diolch’ a negeseuon halogiad,
- neges ‘diolch am barhau i wneud y peth iawn ac am chwarae eich rhan dros yr amgylchedd’, a
- a sut i gael rhagor o wybodaeth.
Os hoffech gynnwys y fideos hyd llawn hyn mewn cyflwyniad, neu chwarae’r rhain mewn digwyddiad neu mewn man cyhoeddus, cysylltwch â ni yn CymruYnAilgylchu@wrap.org.uk
2. Fideos byr – toriadau byrrach (tua 1 munud yr un) o'n fideos hyd llawn mewn fformat MP4, y gallwch eu defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae'r rhain yn canolbwyntio'n bennaf ar y broses ailgylchu benodol a'r defnydd terfynol ar gyfer pob un o'r deunyddiau allweddol. Mae pob fideo ar gael yn y dimensiynau canlynol:
- tirwedd (16:9) – ar gyfer cyfrifon Twitter a YouTube
- portread (9:16) – ar gyfer cyfrifon Facebook ac Instagram
- sgwar (1:1) – ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o bob fideo, ac mae gan bob un isdeitlau.
3. Trawsgrifiadau fideo – dyma'r sgriptiau ar gyfer pob un o'r fideos hyd llawn, y gallwch eu defnyddio i greu copi ategol wrth ddefnyddio'r toriadau byrrach ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dewis defnyddio’r rhestrau ‘ie plîs’ / ‘dim diolch’, y negeseuon halogi, neu’r negeseuon newid hinsawdd, yn eich copi ategol wrth bostio’r toriadau byrrach.
4. Taflenni gwybodaeth ar ffurf ffeithlun – mae'r rhain yn cyflwyno'r cynnwys allweddol o bob fideo, fel ased clir, hunanesboniadol a hawdd ei ddeall ar ffurf PDF. Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o bob taflen wybodaeth, a chewch argraffu’r rhain yn A3/A4.
Lawrlwytho ffeiliau
-
1. Fideos hyd llawn
ZIP, 248.76 KB
-
2a: Fideos byrrach
ZIP, 1.04 GB
-
2b: Fideos byrrach
ZIP, 751.98 MB
-
2c: Fideos byrrach
ZIP, 641.11 MB
-
3. Trawsgrifiadau fideo
ZIP, 42.22 KB
-
4. Taflenni gwybodaeth ar ffurf ffeithlun
ZIP, 8.35 MB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.