Defnyddio plastig 100% eilgylch mewn eitemau masnachol heriol
Crynodeb
Gall mabwysiadau dull ‘economi gylchol’ o redeg busnes – neu hyd yn oed greu un llinell gynnyrch – arwain at enillion amgylcheddol a masnachol enfawr.
Roedd Addis Housewares yn bwriadu ehangu ei gyfres o nwyddau ecogyfeillgar 100% eilgylch, ond daeth y pandemig byd-eang i darfu ar ei strategaeth.
Mae’r astudiaeth achos hon yn rhoi sylw i sut gwnaeth cwmni sy’n ymrwymedig i gynhyrchu mwy o nwyddau ecogyfeillgar gadw’n driw i’r ethos hwnnw er gwaethaf amodau masnachol anffafriol.
Ffeithiau Allweddol
Er gwaethaf amodau masnachol anffafriol, galluogwyd Addis Housewares i ehangu eu cyfres o nwyddau ecogyfeillgar drwy dderbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Economi Gylchol WRAP Cymru.
O ganlyniad, mae’r cwmni:
- am gynyddu’r defnydd o bolypropylen eilgylch i 315 o dunelli o dros 3 blynedd;
- yn rhagamcan y bydd yn arbed swm sy’n cyfateb i 182.7 o dunelli o CO2 dros gyfnod o 3 blynedd;
- yn rhagweld cynnydd sylweddol yn ei refeniw.
Lawrlwytho ffeiliau
-
WRAP-ceg-addis-astudiaeth-achos-2021.pdf
PDF, 171.13 KB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.