Crynodeb

Wrth i economi’r byd symud tuag at atebion mwy cynaliadwy ar gyfer nwyddau, mae’n ddealladwy fod cwmnïau’n awyddus i fanteisio ar y marchnadoedd hyn sydd ar dwf.

Ond mae cynyddu graddfa cynhyrchu i fodloni galw byd-eang yn galw am amser ac arian – adnoddau angenrheidiol nad ydynt bob amser yn hawdd eu cael.

Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos sut bu i fuddsoddiad gan y Gronfa Economi Gylchol (CEF), a ariennir gan Lywodraeth Cymru, rymuso cwmni i gyflymu eu twf ar y farchnad fyd-eang gan gynyddu eu hallbwn o nwyddau eilgylch, cynaliadwy, a lleihau eu hôl-troed carbon cyffredinol.

 

Ffeithiau Allweddol

Caniataodd y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Economi Gylchol WRAP Cymru i Heathpak ehangu eu gwaith cynhyrchu, a fydd yn arwain at

  • Cynyddu’r defnydd o 12,000 o dunelli o bapur eilgylch
  • Creu chwe swydd newydd barhaol llawn-amser, neu gyfatebol â llawn amser
  • Arbedion cyfatebol i 26,508 o dunelli o CO2
  • Cynnydd refeniw sylweddol

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • Astudiaeth Achos Heathpak Ionawr 2022.pdf

    PDF, 366.78 KB

    Download

Tags

Sectors

Cynhyrchwyr