Mae model busnes Techlan o Abertawe yn arddangos yr economi gylchol ar waith yng Nghymru.

Llwyddodd y cwmni i ddatblygu a rhoi patent ar ddull o dynnu halogiad ar yr wyneb oddi wrth rholiau mawr o bapur gollwng silicon a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau cyfansawdd ar gyfer y sectorau awyrofod ac ynni gwynt.

Roedd y papur gwerthfawr hwn yn cael ei ddefnyddio unwaith yn unig, ei drin fel gwastraff ac wedyn ei anfon i dirlenwi, nes gwnaeth Techlan ddyfeisio proses i lanhau’r papur ar y ddwy ochr, gan ei gwneud yn bosibl iddo gael ei ailddefnyddio sawl tro.

Derbyniodd Techlan gymorth gan WRAP Cymru drwy’r Gronfa Economi Gylchol, grant cyfalaf a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r deunyddiau eilgylch mewn nwyddau a gynhyrchir yng Nghymru.

Dyfarnwyd arian ar gyfer offer i gynhyrchu cynnyrch newydd, sydd â’r enw masnach ‘Re-Liner’, a chynyddu eu capasiti i ymateb i’r galw cynyddol am ddeunydd pacio ar gyfer e-fasnach.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • Astudiaeth Achos Techlan.pdf

    PDF, 437.35 KB

    Lawrlwytho

Tagiau

Sectorau

Cynhyrchwyr