Drwy gymorth wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus, mae WRAP Cymru wedi datblygu canllawiau newydd ar Gaffael Tecstilau yn Fosegol a Chynaliadwy. 

Mae gan Lywodraeth Cymru nodau uchelgeisiol i ddod yn wlad ddiwastraff, carbon sero net erbyn 2050.

Nod y canllaw hwn yw helpu caffaelwyr cyhoeddus i gyflawni canlyniadau cynaliadwy a moesegol wrth gaffael tecstilau, drwy ddarparu canllawiau cam wrth gam drwy bob cam o’r broses gaffael. Mae hefyd yn darparu geiriad enghreifftiol y gellir eu defnyddio ar gyfer dewis cyflenwyr, manylebau technegol, meini prawf gwerthuso a dyfarnu, a monitro contractau a dangosyddion perfformiad allweddol.

Gyda nwyddau a gwasanaethau wedi’u caffael yn cynrychioli hyd at 70% o allyriadau carbon corff cyhoeddus, mae ysgogi cynaliadwyedd ar draws y sector yn hanfodol i allu Cymru i gyflawni sero net. Mae tecstilau dillad yn faes sy’n cael effaith amgylcheddol fawr ac mae caffael yr eitemau hyn mewn ffordd fwy cynaliadwy yn gallu helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni eu hymrwymiadau statudol a’u nodau cynaliadwyedd ac amgylcheddol. Amcangyfrifir bod cynhyrchu tecstilau yn cynrychioli hyd at 10% o allyriadau carbon byd-eang. Ond nid cynhyrchu yn unig yw hyn – mae gwastraff tecstilau sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn niweidiol hefyd, gydag amcangyfrif o werth £140m o ddillad yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi yn y DU bob blwyddyn, yn cynnwys:

  • Y 90% o ddillad proffesiynol nad ydynt yn cael eu hailgylchu/ ailddefnyddio bob blwyddyn (WRAP 2012 Corporate Arisings Report).
  • Mwy na 920,000 o dunelli o gynnyrch tecstilau’n cael eu gwaredu yn y ffrwd gwastraff gweddilliol yn y Deyrnas Unedig yn flynyddol a 620,000 o dunelli o decstiliau ail-law’n cael eu casglu i’w hailddefnyddio a’u hailgylchu (WRAP 2019).

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • Canllawiau ar gaffael texcstiliau ar gyfer prynwyr yn y sector cyhaoeddus

    PDF, 4.64 MB

    Download

Tags