Sylwer, er nad yw WRAP Cymru yn cynnig cefnogaeth sefydlu gwerth ar hyn o bryd, mae cyfres o astudiaethau achos, adroddiadau ac offer am ddim ar gael.
Pecyn Cymorth Achos Busnes i gefnogi gwneud penderfyniadau deallus o ran sefydlu gwerth gwastraff bwyd a sgil-gynhyrchion sy’n cael eu cynhyrchu gan wneuthurwyr bwyd a diod (Saesneg yn unig).
Teclyn mapio gwastraff a sgil-gynhyrchion
Teclyn mapio i adnabod gwastraff a sgil-gynhyrchion ac ar ba gamau yn y broses weithgynhyrchu y cânt eu cynhyrchu (Saesneg yn unig).
Adnodd ar gyfer Mapio Economi Gylchol Cymru
Mae’r Adnodd Mapio Economi Gylchol hwn ar gyfer Cymru yn adnodd defnyddiol i’r rhai sy’n gweithio o fewn bioeconomi Cymru; yn enwedig cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd a diod. Mae’n cynnig darlun rhyngweithiol o hyd a lled bioeconomi ffyniannus Cymru, gan ddangos lleoliad busnesau o wahanol fathau o amgylch y wlad a lle mae clystyrau ohonynt yn bodoli.
Lawrlwytho ffeiliau
-
WRAP-getting-more-value-mapping-tool-2017.pdf
PDF, 1.7 MB
-
WRAP-cba-tool-15Jan17.zip
ZIP, 390.01 KB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.