Fe wnes i baratoi araith yn ddiweddar am Raglen Datblygu Marchnadoedd WRAP Cymru, sydd wedi’i rhoi ar waith er mwyn cynyddu cyflenwad cynnyrch sy’n cynnwys deunydd eilgylch a’r galw amdano yng Nghymru. Dechreuais trwy ysgrifennu rhestr o’r holl bethau y mae ein tîm ymroddedig wedi bod yn brysur yn eu gwneud i hwyluso hyn ar y cyd ag eraill. Pan welais y cwbl ar bapur, cefais f’atgoffa o’r holl waith rhagorol sy’n cael ei wneud ac mor hanfodol ydyw er mwyn gwireddu economi gylchol.
Er mwyn cynyddu cyflenwad nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch, rydym yn arddel dull deublyg.
Yn gyntaf, rydym wedi dechrau gweithio gyda nifer o fusnesau dylanwadol i ddatblygu prosiectau arddangos ar gyfer y gadwyn gyflenwi. Bydd y rhain yn arddangos sut gellir goresgyn rhwystrau gwirioneddol a rhai canfyddedig i gynyddu deunyddiau eilgylch – plastig yn enwedig – mewn gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae ymchwil cyfredol gan WRAP Cymru wedi canfod rhwystrau sy’n rhychwantu’r gadwyn gyflenwi gyfan, o argaeledd cyfyngedig, ansawdd a chysondeb deunyddiau eilgylch, drwy’r holl broses hyd at ganfyddiadau a hyder y farchnad. Byddwn yn gweithio i fynd i’r afael â’r rhain, ac ar yr un pryd yn tynnu sylw at ddichonoldeb economaidd a buddion amgylcheddol.
Ar hyn o bryd, amcangyfrifir mai dim ond 10% o’r plastig a ddefnyddir gan weithgynhyrchwyr yng Nghymru sy’n ddeunydd eilgylch wedi’i gyrchu o farchnadoedd eilaidd, felly un o’n prif amcanion yw defnyddio’r dystiolaeth o’r prosiectau hyn i wneud argymhellion a fydd yn galluogi cynyddu’r raddfa ac efelychu ar draws y sector benbaladr.
At hynny, rydym yn darparu’r Gronfa Economi Gylchol, cynllun tair blynedd sy’n werth £6.5 miliwn, ar ran Llywodraeth Cymru. Fe’i dyluniwyd i gefnogi busnesau yng Nghymru sy’n chwilio am fuddsoddiad cyfalaf i gyflwyno, neu gynyddu, cynnwys eilgylch yn y nwyddau maen nhw’n eu cynhyrchu. Yn yr un modd â’n treialon arddangos, y deunydd a roddir blaenoriaeth iddo yw plastig eilgylch; fodd bynnag, mae croeso i fusnesau sy’n defnyddio papur, cerdyn neu decstilau gysylltu â ni.
Hyd yma, rydym wedi dyfarnu pum grant, gyda chyfanswm buddsoddiad – yn cynnwys arian cyfatebol – o dros £2.08 miliwn. Dros dair blynedd, mae disgwyl i hyn arwain at gynnwys mwy na 10,000 o dunelli o ddeunydd eilgylch ac osgoi mwy na 6,200 o dunelli o CO2, ac rydym yn parhau i dderbyn ceisiadau am grantiau, felly edrychaf ymlaen at rannu mwy o newyddion da gyda chi yn y misoedd nesaf.
Gadewch inni droi’n sylw nawr at sut mae WRAP Cymru’n gweithio i gynyddu’r galw am nwyddau sy’n cynnwys deunyddiau eilgylch, a’r galw am nwyddau i’w hailddefnyddio hefyd.
Eto, mae cydweithio’n allweddol. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda chyrff y sector cyhoeddus a’u cynrychiolwyr i ddarparu prosiectau sy’n arddangos sut gall polisïau ac arfer flaenoriaethu caffael cylchol.
Mae sector cyhoeddus Cymru’n gwario oddeutu £6 biliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau. Felly, mae cyfle sylweddol i gyrff cyhoeddus ddefnyddio caffael i gyflawni deilliannau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol buddiol. Gall helpu i gyflawni saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Hefyd, byd cynllun darparu ‘Cymru Carbon Isel’ Llywodraeth Cymru, sy’n cyflwyno ymrwymiad i’r sector cyhoeddus ddatgarboneiddio erbyn 2030, yn gofyn am newid sylfaenol yn y ffordd y caiff nwyddau a gwasanaethau eu caffael. Bydd penderfyniadau a wneir nawr – yn ogystal â strategaethau caffael mwy hirdymor – yn dylanwadu ar allu’r sector cyhoeddus i gyflawni’r ymrwymiad hwn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod bron i 60% o’u hallyriadau carbon yn ganlyniad uniongyrchol i gaffael nwyddau a gwasanaethau. Bydd symud oddi wrth ddull sy’n canolbwyntio ar gost yn unig, tuag at un sy’n cwmpasu’r effeithiau amgylcheddol, yn helpu i baratoi cadwyn gyflenwi Cymru ar gyfer marchnadoedd carbon isel y dyfodol. Rydym yn darparu cymorth ymarferol, wedi’i deilwra i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru i ymwreiddio cynaliadwyedd yn eu strategaethau a gweithgareddau caffael. Mae hyn yn cynnwys caffael mwy o nwyddau sy’n cynnwys deunyddiau eilgylch, a chynyddu caffael nwyddau i’w hailddefnyddio, er mwyn gyrru’r farchnad yn ei blaen. Ers 2017, rydym wedi cyflawni 21 o brosiectau cymorth yn llwyddiannus ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru ac rydym wrthi’n darparu nifer o rai eraill, ac fe gewch glywed mwy amdanynt yn y blogiau nesaf.
Hefyd, cynhaliom gyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru’n ddiweddar, ac rydym wedi cyhoeddi’r canllaw ar gaffael plastigion, sydd ar gael am ddim i roi cymorth pellach i sector cyhoeddus Cymru wrth arwain ar ddefnyddio deunyddiau’n gynaliadwy. Gall y canllaw helpu trwy gynnig prosesau ac adnoddau syml i oleuo penderfyniadau mewnol a dewisiadau pryniant ar gyfer unrhyw gynnyrch sy’n cynnwys plastig.
Braf iawn oedd cael myfyrio ar yr holl gamau arwyddocaol hyn tuag at yr economi wirioneddol gylchol y mae Cymru’n ei haeddu, wedi’i sbarduno gan yr araith a ysgrifennais. Rwyf mor hynod o falch o’r hyn mae ein tîm Datblygu Marchnadoedd – a gweddill WRAP Cymru – yn ei gyflawni ar y cyd ag eraill. Rwy’n sicr mai cydweithio yw’r allwedd.