Y cynnydd diweddaraf (Awst 2021)
Llwyddiant wrth gyflwyno cynwysyddion eitemau meddygol miniog a gorchuddion diogelwch mewnol wedi’u cynhyrchu o bolypropylen 100% eilgylch
Nod y prosiect hwn yw goresgyn diffyg hyder gan y farchnad, gan fod llawer o gynhyrchwyr yn bryderus ynghylch y risg o argaeledd annigonol deunyddiau eilgylch yn y tymor hir, a pherfformiad anghyson. Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i arddangos eu llwyddiant wrth ddefnyddio cynnwys 100% eilgylch ar gyfer cynhyrchu cynwysyddion eitemau meddygol miniog.
Mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar y nwyddau canlynol, a gynhyrchir gan Frontier Plastics Ltd – rhan o’r Vernacare Group – yn ei safle yn Ne Cymru:
- Cyfres o gynwysyddion eitemau miniog duon, cyfeintiau o 0.2 litr i 1 litr, ar gyfer y farchnad lleihau niwed; a
- gorchuddion diogelwch mewnol ar gyfer cynwysyddion Sharpsafe melyn 2, 3, 4 a 7 litr.
Caiff yr holl gynwysyddion ar gyfer eitemau miniog a’r gorchuddion diogelwch mewnol eu cynhyrchu o bolypropylen wedi’i fowldio drwy chwistrell. Mae cryfder ar wrthdrawiad uchel, a gwydnwch yn erbyn tyllau nodwyddau, yn rhinweddau mecanyddol cwbl hanfodol i unrhyw bolymer eilgylch a awgrymir ei ddefnyddio i’r diben hwn.
Cynwysyddion eitemau miniog duon ar gyfer y farchnad lleihau niwed
Yn dilyn chwilio’n eang am ddeunyddiau polypropylen eilgylch (rPP) a oedd ar gael, fe ddaethom o hyd i nifer o raddau addas i ymchwilio ymhellach iddynt. Roedd hyn yn cynnwys rPP ôl-gwsmer wedi’i wahanu yn y ffynhonnell o amrywiol ffynonellau. Ffurfiwyd y darnau sampl drwy fowldio chwistrell ac fe’u rhoddwyd ar brawf i feincnodi’r deunydd yn erbyn y resin crai presennol a Thaflen Ddata Technegol y cyflenwr.
Canfu’r profion ddau rPP o ffynonellau ôl-gwsmer a oedd yn cydweddu’n agos â nodweddion y resin crai. Cynhaliwyd treialon mowldio cynnyrch wedyn gan ddefnyddio 100% rPP, ac fe lwyddodd y ddau ddeunydd i basio safonau profion rheoli ansawdd mewnol llym Frontier Plastics Ltd. Sicrhawyd sypiau dilynol o rPP ac fe’u rhoddwyd ar brawf i gadarnhau cysondeb o un swp i’r llall a sicrhau eu bod oll yn cydymffurfio â’r holl fanylebau.
Wedi llwyddo i arddangos addasrwydd a chydymffurfiaeth y cynnyrch gyda’r safonau rheoleiddiol perthnasol, bydd Frontier Plastics Ltd mynd ati i gynhyrchu eu cyfres o gynwysyddion eitemau miniog duon yn llawn cyn bo hir, gan ddefnyddio’r rPP a brofwyd ar 100%.
Cyrchwyd yr rPP gan gyflenwr yng Nghymru, sy’n rhoi’r fantais ychwanegol o lai o filltiroedd cludiant a chadwyn gyflenwi sylweddol fyrrach. Mae hon yn ystyriaeth bwysig i gynhyrchwyr, ac mae’r pandemig COVID-19 wedi dod â hyn i’r amlwg. Yn ystod y cyfnod hwn, mae llawer o gadwyni cyflenwi rhyngwladol hir wedi cael eu handwyo’n ddifrifol gan gyfyngiadau byd-eang ar gapasiti a symud.
Mae’n bleser gennym ddweud bod y gwaith datblygu ar orchuddion diogelwch mewnol ar gyfer cynwysyddion Sharpsafe melyn 2, 3, 4 a 7 litr hefyd wedi bod yn llwyddiannus. Ers mis Tachwedd 2020, mae gorchuddion diogelwch Sharpsafe wedi bod yn cael eu cynhyrchu 100% o rPP yn hytrach na resin crai.
Yn ogystal â pherfformiad mecanyddol boddhaol, un o’r metrigau perfformiad allweddol ar gyfer y gorchuddion diogelwch oedd bod rhaid iddynt gael eu cynhyrchu o ddeunydd tryloyw o liw naturiol, fel bod modd gweld lefel llenwi a chynnwys y cynhwysydd eitemau miniog i alluogi asesu diogel gan y defnyddiwr terfynol.
Yn dilyn chwilio’n eang am ddeunyddiau rPP a oedd ar gael, fe ddaethom o hyd i bedwar darpar ddeunydd ar gyfer ymchwilio ymhellach iddynt, yn cynnwys rPP ôl-gwsmer ac ôl-ddiwydiannol o’r sectorau deunydd pacio, meddygol a hidlo diwydiannol. Cafwyd data technegol ynghylch y deunyddiau gan y cyflenwyr, a chynhyrchwyd darnau prawf drwy fowldio chwistrell i feincnodi yn erbyn manyleb y cyflenwr, ac i’w cymharu â’r resin crai.
Cafodd y gyfres gyfan o orchuddion diogelwch eu mowldio’n llwyddiannus gan ddefnyddio dau rPP a gyrchwyd o’r sectorau deunydd pacio a hidlo diwydiannol, ac fe wnaethant fodloni pob prawf mecanyddol mewnol. Fodd bynnag, methu a wnaethant ar y fanyleb ar gyfer tryloywder.
Roedd trydydd rPP o ffynhonnell feddygol ôl-gwsmer yn opsiwn arbennig o ddeniadol ac fe ddangosodd yr holl nodweddion perfformiad angenrheidiol. Wedi iddo gael ei fowldio, roedd yn cynhyrchu nwyddau na ellid dweud y gwahaniaeth rhyngddynt â’r rhai a wnaed o resin crai. Yn anffodus, oherwydd diffyg symiau dibynadwy a chyson, roedd yn rhaid diystyru’r deunydd hwn, a oedd fel arall yn ddelfrydol, ar gyfer y diben penodol hwn.
Roedd pedwaredd ffynhonnell rPP o’r sector meddygol a lwyddodd i basio’r profion mecanyddol a thryloywder optegol ill dau gyda 100% cynnwys eilgylch. Rhoddwyd sypiau pellach o’r rPP ar brawf a dangoswyd cysondeb o un swp i’r llall ynghyd â chydymffurfiaeth â’r fanyleb. Gyda’r ansawdd wedi’i brofi, a’r argaeledd hirdymor yn sefydlog ar hyn o bryd, aeth Frontier Plastics Ltd ati i gynhyrchu gorchuddion diogelwch o 100% rPP yn llawn yn hwyr yn 2020, heb unrhyw gost ychwanegol i’r busnes. Bydd hyn yn osgoi defnyddio tua 69 o dunelli o ddeunydd crai y flwyddyn.
Camau nesaf
Mae cyflwyno cynnwys 100% eilgylch i’r cynwysyddion eitemau miniog duon a’r rhai melyn ill dau yn cynrychioli cwblhau’r camau datblygu gwreiddiol o’r prosiect arddangos hwn yn llwyddiannus. Mae’r deunyddiau rPP a ganfuwyd wedi dangos eu bod yn addawol at ddibenion eraill o fewn cyfresi Frontier Plastics Ltd o gynwysyddion eitemau miniog, ac mae gwaith pellach yn cael ei wneud ar hyn o bryd.
“Bwriadwn gyflwyno deunyddiau eilgylch yn ehangach ar draws ein cyfres o gynwysyddion eitemau miniog, gyda’r nod o gyflwyno cyfres newydd o gynwysyddion eitemau miniog a fydd yn cynnwys canran uchel o gynnwys eilgylch.”
John Davies, Cyfarwyddwr Categori Byd-eang, Frontier Plastics Ltd