Defnyddio Cynnwys Eilgylch – Prosiect o fewn y gadwyn gyflenwi

Treial Gwastraff Amaethyddol Polyethylen Dwysedd Isel (low-density polyethylene/LDPE) a Pholyethylen Dwysedd Isel Unllin (LLDPE)

Diweddariad ar gynnydd (Awst 2020)

Dirnadaethau gwerthfawr o dreial cyntaf uchelgeisiol

Nod y treial hwn oedd cynnwys cymaint o LDPE a LLDPE eilgylch â phosibl, wedi’i adfer o haenau amaethyddol, mewn nwyddau a gynhyrchir gan ddefnyddio mowldio cylchdroadol. Mae nwyddau a gynhyrchir gan ddefnyddio mowldio cylchdroadol yn gyffredinol yn blastigion gwydn, sy’n para’n dda. Mae cynnwys cyfran sylweddol o haen amaethyddol eilgylch yn heriol oherwydd lefelau halogiad, nodweddion LDPE a’r manylebau technegol y mae’n rhaid i’r nwyddau newydd eu bodloni. 

Golchwyd un dunnell o ddeunydd, wedi’i wneud 50% o orchudd cnydau (a wnaed o LDPE) a 50% o ddeunydd lapio silwair (wedi’i wneud o LLDPE) er mwyn lleihau lefelau halogiad, cyn mynd ati i’w ailbrosesu. Er gwaethaf yr heriau technegol o felino gwahanol safonau o bolymer eilgylch, trawsnewidiwyd y cyfuniad LDPE / LLDPE hwn yn bowdwr 800 µm o ansawdd addas i’w ddefnyddio yn y broses mowldio cylchdroadol. 

Dangosodd ein hasesiad amgylcheddol bod amcangyfrif yr allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â’r deunydd hwn yn ddim ond 20% o’i gymharu â pholymer crai. Dangosodd asesiad economaidd y gallai polymerau eilgylch gynnig dewis amgen costeffeithiol. 

Defnyddiwyd y powdwr i gynhyrchu deunydd wedi’i wneud 100% o gynnwys eilgylch. Fodd bynnag, roedd ei arwyneb yn arw ac roedd arno ‘dyllau pin’ ar ei hyd. Credir mai’r rheswm am hyn yw mynegai llif tawdd (Melt Flow Index/MFI) y polyethylen (PE) tawdd – roedd yn rhy ludiog i lifo’n llyfn i mewn i’r mowld.

Er nad oedd y cynnwys 100% eilgylch yn bodloni’r manylebau ar gyfer y deunydd, mae’r treial uchelgeisiol hwn wedi cynnig dirnadaethau gwerthfawr. Mae melino’r PE eilgylch yn llwyddiannus a’r manteision amgylcheddol ac economaidd cadarnhaol o’i ddefnyddio yn haeddu cael eu harchwilio ymhellach. Rydym wedi trosglwyddo llawer o’r mewnwelediadau gwerthfawr a gafwyd o’r prosiect hwn i brosiect ar wahân, lle mae’r ffocws yn parhau ar ailgylchu gwastraff ffilm amaethyddol.
Mae partneriaid y treial yn cynnwys: Axion Recycling Ltd (partner arweiniol); B&J Parr; Crompton Mouldings Ltd; and MDS Recycling Ltd.
Nôl i Prosiectau o fewn y gadwyn gyflenwi