Mae Llywodraeth Cymru yn gweinyddu gofynion deddfwriaethol ar gyfer diogelu’r amgylchedd ar draws Cymru, felly pan gynigiodd WRAP gyngor iddi er mwyn asesu a gwella’i systemau ei hun, roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus i fanteisio ar y cymorth.

 

Buddion allweddol

  • Gwireddu arbedion costau;
  • Lleihau allyriadau carbon;
  • Creu ffigurau cywir i gynorthwyo â monitro ac olrhain gwelliant.

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflogi tua 5,500 o staff ac mae’n darparu gwasanaethau arlwyo ar 10 o’i 38 lleoliad. Yn 2012, cynhaliodd WRAP Adolygiad Optimeiddio Adnoddau er mwyn amlygu’r cyfleoedd i wella effeithlonrwydd adnoddau a, hefyd, rhoddodd gyngor ar eiriad dogfen dendr ar gyfer Contract Arlwyo Cymru Gyfan. 

Nod Llywodraeth Cymru yw arddangos y safonau uchel y mae’n eu disgwyl gan eraill. Mae hyn yn cynnwys arwain at ymdrechion i atal a lleihau gwastraff. Yn ogystal â buddion amgylcheddol lleihau gwastraff, mae hyn yn golygu cyflawni gwerth am arian i’r pwrs cyhoeddus. Mae ymrwymo i’r cynlluniau hyn yn dangos yn glir fod Llywodraeth Cymru yn ymroi i’r broses wella. 

Cynhaliwyd yr adolygiad yn swyddfa Parc Cathays yng Nghaerdydd. Mae tua 2,500 o bobl yn gweithio yno, gyda 250 o ymwelwyr ychwanegol yn cyrraedd bob dydd. Mae gwasanaethau arlwyo ar y safle yn cynnwys prif fwyty a thri chyfleuster bar coffi. Mae’r opsiynau’n amrywio o fwyd poeth a deli i frechdanau parod a choffi gan ‘barista’. Mae’r pedwar cyfleuster gyda’i gilydd yn goruchwylio 562,000 o drafodion bob blwyddyn, gyda gwerthiannau o gyfanswm o ryw £950,000.
 

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • WRAP-arwain-ar-effeithlonrwydd-adnoddau-2017.pdf

    PDF, 212.27 KB

    Lawrlwytho

Tagiau

Sectorau

Sector cyhoeddus