Map Llwybr Gwastraff Bwyd Cymru newydd gan WRAP yn nodi cyfres o ymyriadau posibl a allai leihau gwastraff bwyd ar draws y gadwyn gyflenwi.
Mae adolygiad cynhwysfawr o dystiolaeth yn nodi sut y gall y mecanweithiau weithio a sut maent wedi gweithio wrth gael eu cymhwyso mewn mannau eraill yn y byd.
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ‘Mwy nag Ailgylchu’ gyda’r nod o wneud yr economi gylchol yn realiti yng Nghymru. Mae hyn yn ymrwymo i darged o leihau gwastraff bwyd y gellir ei osgoi 50% erbyn 2025, o’i gymharu â llinell sylfaen yn 2007, a gostyngiad o 60% erbyn 2030.
Mae ein modelu arloesol yn rhoi amrywiaeth o opsiynau cyflenwi i Lywodraeth Cymru. Gallai gwahanol lefelau o uchelgais arwain at lefelau gwahanol o effaith. Gallai’r dull modelu a ddefnyddir gan ein tîm gael ei ddefnyddio gan leoliadau/llywodraethau eraill dros y byd.
Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod modd cyrraedd y gostyngiad targed Llywodraeth Cymru o 60%, ond nid yw’n hawdd ei gyflawni. Mae hyn yn golygu mynd y tu hwnt i’r camau presennol a chymryd camau rhagweithiol.
Gallai mabwysiadu dull uchelgeisiol leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gan oddeutu 650 mil tunnell o CO2e, gydag arbedion ariannol o dros £800 miliwn, ac mae mwy na thraean o’r manteision ariannol yn cael eu profi gan aelwydydd yng Nghymru.
Lawrlwythwch yr adroddiad llawn.
Lawrlwytho ffeiliau
-
Map Llwybr Gwastraff Bwyd Cymru 2023.pdf
PDF, 6.31 MB
-
Map Trywydd Gwastraff Bwyd Cymru - Adroddiad Technegol.pdf
PDF, 1.19 MB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.