Mae’r ‘Gyfrifiannell Buddion Lleol’ hon wedi’i chynllunio i gyfrifo faint o ynni y gellir ei arbed pe byddai pob Aelwyd mewn Awdurdod Lleol (ALl) yn ailgylchu un ‘eitem’ yn ychwanegol bob mis. Cafodd yr adnodd hwn ei greu i gynorthwyo ALl Cymru i drosi eu tunelleddau i greu negeseuon sy’n ynghylch ynni. Mae’r data a ddefnyddiwyd i greu’r gyfrifiannell hon yn benodol i Gymru.
Gall ALlau fewnbynnu nifer yr Aelwydydd (HH) yn eu ALl, a bydd y daenlen yn diweddaru’n awtomatig i gyfrifo faint o ynni y gellir ei arbed drwy ailgylchu un yn fwy o bob ‘eitem’ bob mis. Dangosir yr ynni a gaiff ei arbed yn nhermau dyddiau neu wythnosau o bweru ysgol gynradd, ysbyty neu lyfrgell leol.
Gall ALlau ddefnyddio'r data hwn yn eu hymgyrchoedd a'u cyfathrebiadau i annog ac ysgogi preswylwyr i ailgylchu mwy o'u gwastraff.
Defnyddir troednodiadau i egluro ffynhonnell yr wybodaeth neu’r fformiwlâu a ddefnyddir ar gyfer y cyfrif.
Sylwch: Er nad yw'r cyfrifiadau a ddefnyddir yn yr offeryn hwn yn gyfrinachol, mae peth o'r data yn gyfrinachol. Rydym wedi nodi ffynhonnell yr holl ddata a ddefnyddir yn yr Offeryn, ond nid oes gennym ganiatâd i gyhoeddi'r holl ddata oherwydd rhai cytundebau trwyddedu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â CymruYnAilgylchu@wrap.org.uk.
Lawrlwytho ffeiliau
-
WRAP-wr-local-benefits-calculator-20211006.xlsx
XLSX, 533.98 KB
-
WRAP-wr-cyfrifiannell-buddion-lleol-20211019.xlsx
XLSX, 560.4 KB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.