Gall y gair ‘Bioblastigion’ beri dryswch, gan fod termau, honiadau, safonau ac ystyriaethau defnyddio/gwaredu yn wahanol i blastigion confensiynol, ffosil-seiliedig. Er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n briodol, nod y ddogfen ganllaw hon yw rhoi’r adnoddau i fusnesau allu gwneud y penderfyniadau iawn.

Nod y ddogfen hon yw rhoi arweiniad ar yr ystyriaethau y dylid eu gwneud wrth benderfynu a yw deunydd bioblastig yn briodol mewn cymhwysiad ynteu a yw ffactorau allanol, fel cyfyngiadau presennol ar weithgynhyrchu neu reoli gwastraff, yn cyfyngu ar y manteision y gellir eu cyflawni. Mae’n rhoi ciplun o’r cynnydd yn nefnyddio a rheoli gwastraff deunyddiau a nwyddau plastig bioseiliedig/compostadwy, gan egluro:

· Terminoleg.

· Safonau ardystio perthnasol.

· Manteision/anfanteision amgylcheddol cyffredinol.

· Cymwysiadau a chyfleoedd allweddol (yn dibynnu ar seilwaith rheoli gwastraff).

· Addysgu ar gyfleu gwybodaeth (yn cynnwys yn ystod y cam gwaredu gan ddefnyddwyr).

Mae’r ddogfen hon yn cyd-fynd â Strategaeth Mwy Nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru: yn benodol, annog defnyddio mwy o bioblastig o ffynonellau adnewyddadwy pan fo angen defnyddio plastig o hyd, a pha bryd mae hyn yn cynrychioli’r opsiwn amgylcheddol gorau yn gyffredinol.

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • Canllaw Bioblastigion i Gymru 2023.pdf

    PDF, 11.57 MB

    Download

Tags