Cychwyn Arni

Mae’r fideos arddangos isod yn dangos ichi sut i gael yr wybodaeth y mae ei hangen arnoch o’r Map Deunyddiau.

Cyffredinol

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y sefydliadau sy’n cynhyrchu nwyddau plastig a phapur ac sy’n casglu ac yn ailgylchu plastigion a phapur gwastraff mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r fideo arddangos isod yn rhoi trosolwg o’r adnodd a sut i fynd ati i lywio’r gwahanol opsiynau chwilio.

Mae’r nodweddion defnyddiol yn cynnwys:

  • Mae pedair ffordd y gallwch chwilio am y deunyddiau y mae eu hangen arnoch: “Math o Safle” “Tunelleddau Plastig a phapur” “Crynodeb Awdurdod Lleol” a “Math o Drwydded”. Disgrifir pob un o’r opsiynau chwilio mewn mwy o fanylder yn yr adrannau canlynol.

  • Mae cyfarwyddiadau ym mhob tab i ddangos ichi sut i ddefnyddio’r sgrin – cliciwch ar y botwm ‘i’ am fwy o help.

  • Gallwch hofran dros yr ochr chwith ar frig y map i ddangos nodweddion panio a chwyddo ym mhob tab.

  • Peidiwch â defnyddio botwm ‘yn ôl/back’ eich porwr gwe i lywio’r safle, defnyddiwch y botymau ar waelod y sgrin ar yr ochr dde (dadwneud, ail-wneud ac ailosod).

  • Gallwch rannu a lawrlwytho allbynnau eich chwiliad fel dogfennau pdf a Power Point gan ddefnyddio’r botymau ar waelod y sgrin ar yr ochr dde

 

Tagiau