Cychwyn Arni
Mae’r fideo arddangos isod yn dangos ichi sut i gael yr wybodaeth y mae ei hangen arnoch o’r Map Deunyddiau.
Tunelleddau Plastig a Phapur
Mae data ar gael ar gyfer safleoedd gwastraff y mae gennym ddata hysbys ynghylch y symiau o wastraff maen nhw’n eu prosesu yn unig. Mae’r data hwn naill ai wedi’i roi yn uniongyrchol gan y cwmni, neu pan nad oedd ar gael ganddyn nhw, gan ddata cofnodion gwastraff a gyflwynwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r nodweddion defnyddiol yn cynnwys:
- Gallwch hidlo yn ôl rhanbarth dan y blwch “dewis rhanbarth” ar y map, e.e. De Ddwyrain Cymru.
- Gallwch hidlo yn ôl math y safle; mae’r tunelleddau o wastraff a brosesir gan bob safle yn cael eu dangos gan faint y symbolau siâp cylch.
- Rydym yn ymwybodol bod safleoedd nad oes data gwastraff ar gael ar eu cyfer, a gallai fod yn ddefnyddiol ichi dynnu’r safleoedd hyn drwy newid y switsh togl tunelledd hysbys/anhysbys.
Defnyddiwch yr wybodaeth ar y Map Deunyddiau i greu economi gylchol ar gyfer plastigion a phapur yng Nghymru.