Wrth imi gerdded ar ran o lwybr arfordir hardd Cymru dros y penwythnos, allwn i ddim peidio sylwi ar y sbwriel sy’n golchi i mewn gyda’r llanw. Gwnaeth imi feddwl am y math o economi y dylai Cymru ei chael: un gylchol lle caiff plastig ei ailddefnyddio. Un lle nad yw cynwysyddion plastig wedi’u taflu – er enghraifft – yn anharddu’r dirwedd neu’n mynd yn wastraff tirlenwi, ond yn cael eu gwneud yn nwyddau defnyddiol drachefn.
I gael gwared â’r sbwriel plastig hwn, mae angen i gynhyrchwyr ddefnyddio’r deunydd eilgylch ac i ddefnyddwyr brynu eu nwyddau. Amcangyfrifir mai 10% yn unig o’r plastig a ddefnyddir gan gynhyrchwyr yng Nghymru sy’n ddeunydd eilgylch. Fodd bynnag, mae tîm Rhaglen Datblygu Marchnad WRAP Cymru’n gweithio’n galed i godi’r ffigur hwn. Fel y soniais yn y blog diwethaf, mae hyn yn cynnwys prosiectau yn y gadwyn gyflenwi i helpu i ddiddymu’r rhwystrau i gynyddu cynnwys eilgylch yn y byd cynhyrchu plastig yng Nghymru.
Meddyliais y buaswn yn cymryd y cyfle hwn i sôn ychydig am y prosiectau cydweithredol hyn. Ein gobaith yw y byddant yn helpu i beri cynnydd sylweddol yn y defnydd a wneir o ddeunydd eilgylch a thrwy hynny fynd i’r afael â’r heriau a wynebir yn fyd-eang. Rydym yn gweithio gyda mwy na 20 o sefydliadau partner o amrywiol feintiau, o’r sectorau preifat a’r sector cyhoeddus. Ein nod yw goresgyn materion technegol – fel defnyddio deunyddiau eilgylch mewn nwyddau sydd angen gallu gwrthsefyll traul a gwisgo – ac ar yr un pryd, pwysleisio dichonoldeb economaidd a buddion amgylcheddol.
Mae Cymru’n arwain y gad gydag ailgylchu yn y cartref yn y Deyrnas Unedig, a ni yw trydedd genedl orau’r byd. Rydym hefyd yn cynhyrchu mwy o ddeunydd pacio plastig na’r ydym yn ei ddefnyddio. Trwy brosiectau fel y rhain, gallai cynhyrchwyr Cymru fod ar y blaen wrth ddatblygu ffyrdd arloesol o gynyddu cynnwys eilgylch. Er enghraifft, mae’r nod gan un o’n treialon o ddangos dull arloesol o ddefnyddio deunyddiau eilgylch i gynhyrchu nwyddau adeiladu sydd llawn cystal â’u cymheiriaid o blastig newydd. Byddai’n cynrychioli’r cyntaf o’i fath yn y byd.
Rydym yn cynnal pedwar prosiect i gyd, ac edrychwn ymlaen at rannu canlyniadau cadarnhaol gyda chi maes o law. Cadwch lygad ar y tudalennau prosiect canlynol; byddwn yn eu diweddaru i’ch cadw’n hysbys o’r cynnydd a wnawn:
- Treial gwastraff amaethyddol: gwneud defnydd o bolyethylen dwysedd isel eilgylch (low-density polyethylene/LDPE)
- Treialu polyethylen dwysedd uchel (recycled high-density polyethylene/HDPE) a pholypropylen (PP) eilgylch mewn adeiladu ac i gludo nwyddau peryglus
- Defnyddio PP eilgylch yn y sector meddygol ac mewn nwyddau ar gyfer y cartref
- Defnyddio polyethylen (PE) eilgylch ac LDPE mewn adeiladu
O ddangos bod y dulliau newydd hyn yn gweithio, dylai roi’r hyder i gynhyrchwyr eraill ddefnyddio mwy o bolymerau eilgylch. Bydd cwsmeriaid yn chwarae eu rhan trwy brynu nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch.
Dylai’r prosiectau hyn hefyd weithio fel catalydd ar gyfer newid ehangach, gan leihau’r ddibyniaeth ar bolymerau newydd. Mae’n hanfodol bod mentrau a modelau busnes newydd yn cael eu mabwysiadu er mwyn cadw plastigion mewn defnydd economaidd cyhyd â phosibl. Byddai hyn yn fuddiol nid yn unig i’r amgylchedd, ond gallai hefyd fod o fantais fasnachol i fusnesau. A, phan fyddwch chi’n cerdded llwybr yr arfordir yn y dyfodol, fe gewch olygfa well fyth.