Cynhaliwyd yr astudiaeth hon er mwyn darparu data cyfredol i Lywodraeth Cymru a WRAP Cymru ar gyfansoddiad gwastraff   masnachol a diwydiannol (commercial and industrial/C&I) gweddilliol cymysg yng Nghymru. Y prif amcan oedd amcangyfrif y gyfran o'r gwastraff gweddilliol a gynhyrchir yng Nghymru y gellid ei osgoi trwy ailgylchu neu gompostio.

Dadansoddodd yr arolwg 108 o samplau o wastraff gweddilliol, yn cyfrif am 26 o dunelli o ddeunydd: 13 o wastraff a aeth yn uniongyrchol i dirlenwi, 60 a oedd ar ei ffordd i droi gwastraff yn ynni a 35 o orsafoedd trosglwyddo. Canfuwyd bod 64 yn wastraff masnachol, chwech fel gwastraff diwydiannol a’r 38 arall yn wastraff C&I cymysg.

Y prif newidiadau ers 2007

  • Cynnydd yn y gyfran o blastigion (7.9%)
  • Cynnydd yn y gyfran o sylwedd organig (2.9%)
  • Lleihad yn y gyfran o bapur a bwrdd (6.6%)
  • Lleihad yn y gyfran o gwastraff amrywiol (3.1%)

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • WRAP-gwastraff-masnachol-a-diwydiannol-2020.pdf

    PDF, 687.32 KB

    Lawrlwytho

Tagiau