Cyfansoddiad Gwastraff

Er mwyn datrys y problemau a achosir gan wastraff, mae’n bwysig gwybod beth sydd yn y gwastraff hwnnw. I fynd i’r afael â hyn, mae WRAP Cymru wedi comisiynu dadansoddiadau cyfansoddiadol o wastraff a sbwriel trefol.

Dadansoddiad Cyfansoddiadol o Wastraff Trefol yng Nghymru (2022)

Yn 2021, comisiynodd WRAP Cymru ddarn o waith ar ddadansoddi cyfansoddiad gwastraff trefol Cymru. Nod y dadansoddiad o Wastraff Solet Trefol (MSW) a gasglwyd gan Awdurdodau Lleol yw sefydlu sylfaen dystiolaeth gadarn a fydd yn sail i ddatblygu polisi a strategaeth Cymru ar yr economi gylchol ac ailgylchu, gan gynnwys sut bydd targedau ailgylchu’n cael eu cyflawni yn ystod y degawd nesaf. Bydd hefyd yn helpu awdurdodau lleol unigol i gynllunio i gyrraedd targedau ailgylchu yn y dyfodol.

Cafodd y dadansoddiad cyfansoddiad ei gynnal ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru a chafodd ei gynnal dros ddau dymor yn 2022. Cyhoeddwyd y canlyniadau yn Gorffenaf 2023. 
Roedd y dadansoddiad yn dangos bod 882,000 tunnell o’r 1.51 miliwn tunnell o MSW a gasglwyd yn 2021/2022 yn cael eu casglu i’w hailgylchu, naillai ar ymyl y ffordd neu drwy fathau eraill o gasgliadau.

Roedd cyfran y gwastraff gweddilliol ar ymyl y ffordd a oedd yn eang yn ailgylchadwy yn 36.5%. Ar gyfartaledd, roedd 24.7% o’r gwastraff gweddilliol ar ymyl y ffordd a ddadansoddwyd yn wastraff bwyd, ac roedd 11.8% yn cynnwys deunyddiau ailgylchu sych a gaiff eu hailgylchu’n eang.

Gwastraff bwyd yw’r prif ddeunydd targed o hyd, ac amcangyfrifir deilliant o ychydig dros 270,000 tunnell o fewn MSW yng Nghymru yn 21/22. Casglwyd dros 56% o’r gwastraff bwyd a gynhyrchwyd gan gartrefi ar ymyl y ffordd i’w ailgylchu, gwelliant sylweddol o’i gymharu â’r dadansoddiad blaenorol yn 2015 pan oedd yn 47%. Cynyddodd cyfran y deunyddiau ailgylchu sych a ddargyfeiriwyd i ffrydiau ailgylchu ar ymyl y ffordd hefyd ers 2015 – o 72% i 84%.

Dadansoddiad Cyfansoddiadol o Sbwriel yng Nghymru (2018)

Cyhoeddwyd prosiect dadansoddiad cyfansoddiadol hwn ym mis Mehefin 2018, a’i nod oedd mesur cyfansoddiad y gwahanol fathau o sbwriel ac amcangyfrif cyfanswm cyfansoddiad y ffrwd hon yng Nghymru. 

Gan fod sbwriel yn cael ei gasglu mewn sawl ffordd wahanol, cafodd amryw o ffynonellau eu cynnwys yn y dadansoddiad, yn cynnwys: biniau sbwriel, biniau ailgylchu ar hyd y lle a sbwriel a godwyd gan dimau glanhau strydoedd gyda cheirt a thrwy sgubo â llaw mewn pedwar awdurdod lleol yng Nghymru.

Dadansoddiad Cyfansoddiadol o Wastraff Trefol yng Nghymru (2015-16)

Yn 2015, comisiynodd WRAP Cymru ddarn o waith ar ddadansoddi cyfansoddiad gwastraff trefol Cymru; cyhoeddwyd y canlyniadau ym Mehefin 2016. 

Dangosodd y dadansoddiad fod 856,000 tunnell, o blith yr 1.55 miliwn tunnell o wastraff trefol solet a gasglwyd yn 2014–2015, wedi’i gasglu ar gyfer ei ailgylchu un ai ar garreg y drws neu trwy ddulliau casglu eraill. Roedd hyn yn dangos gwelliant sylweddol o’i gymharu â’r dadansoddiad blaenorol yn 2009. 

Canfuwyd bod cryn dipyn o ddeunydd ailgylchadwy yn bresennol o fewn y ffrwd wastraff drefol o hyd. Gwastraff bwyd oedd y prif ddeunydd targed a oedd yn dal i fod yn fwy tebygol o gael ei ganfod yn y ffrydiau gwastraff gweddilliol yn hytrach nag yn y gwastraff bwyd a gasglwyd ar wahân, gyda chyfradd casglu o 47 y cant ar garreg y drws.  Nid oedd y deunyddiau ailgylchu sych mor gyffredin o fewn y ffrydiau gwastraff gweddilliol, gyda chyfraddau casglu da ar gyfer gwydr, papur a cherdyn, rwbel a metelau fferrus.  Nid oedd cyfraddau casglu plastigion trwchus, tecstilau a metelau anfferrus mor uchel â rhai o’r deunyddiau eraill.

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • WRAP-wales-msw-summary-report-cymraeg-2023.pdf

    PDF, 993.73 KB

    Download
  • WRAP-cyfansoddiad-sbwriel-yng-nghymru-2018.pdf

    PDF, 916.87 KB

    Download
  • WRAP-dadansoddiad-o-wastraff-trefol-2015-16-crynodeb.pdf

    PDF, 170.43 KB

    Download
  • WRAP-dadansoddiad-o-wastraff-trefol-2015-16-saesneg-yn-unig.pdf

    PDF, 972.94 KB

    Download

Tags