Mae’r sefydliadau canlynol ar gael i roi cymorth ichi:

Gall y sefydliadau hyn gynnig gwybodaeth a chymorth ar reoli gwastraff i’ch helpu i phawb greu economi gylchol yng Nghymru.

  • WRAP Cymru – Gallwch ddod o hyd i erthyglau, cyngor a chymorth ar ddeunyddiau gwastraff, eu gwrth a’r cyfleoedd i ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff.
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) – Gallwch ddysgu sut caiff safleoedd gwastraff a gweithgynhyrchu eu rheoleiddio.
  • Cofrestr Gyhoeddus CNC – Gwiriwch drwydded unrhyw weithredwyr gwastraff yn eich cadwyn gyflenwi.
  • Map Deunyddiau Gylchol – ewch yn ol i’r map deunyddiau i ddod o hyd i safleoedd sy’n prosesu deunyddiau gwastraff, yn ailgylchu gwastraff plastig a phapur i wneud nwyddau newydd a chynhyrchwyr nwyddau plastig a phapur newydd.
  • Fy Ailgylchu Cymru – Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i reoli gan WRAP, mae'r wefan hon yn eich galluogi i bori awdurdodau lleol Cymru a gweld beth sy'n digwydd i ailgylchu a gesglir gan awdurdodau lleol, ledled y DU a hyd yn oed o gwmpas y byd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr adnodd, neu os hoffech ychwanegu (neu ddiweddaru) manylion eich busnes ar yr Adnodd Mapio, cysylltwch â ni ar Resources.Wales@wrap.org.uk

Tagiau