Effeithiau Newid Hinsawdd Gwasanaethau Ailgylchu yng Nghymru (2016)
Cyhoeddwyd adroddiad Effeithiau Newid Hinsawdd Gwasanaethau Ailgylchu yng Nghymru gan WRAP Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar waith a ymgymerwyd gan Eunomia rhwng Rhagfyr 2015 ac Awst 2016.
Mae’r adroddiad yn archwilio effeithiau carbon y gwahanol wasanaethau ailgylchu a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru, ac mae’n cymharu perfformiad systemau didoli ar garreg y drws, systemau cymysg a systemau dwy ffrwd. Mae hefyd yn ystyried y buddion newid hinsawdd a gafwyd o weithgareddau ailgylchu yn 2014–15 ac yn cymharu hyn â’r buddion a fyddai i’w gweld pe bai Glasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru yn cael ei fabwysiadu gan bob awdurdod lleol.
Atodiad i Effeithiau Newid Hinsawdd Gwasanaethau Ailgylchu yng Nghymru (2016): Effeithiau Carbon – Tagfeydd Traffig yn ystod Casgliadau (2017)
Mae’r atodiad hwn yn ystyried yr effaith carbon deuocsid cyfatebol sy’n gysylltiedig ag allyriadau o gerbydau yn troi’n segur wrth aros y tu ôl i gerbydau casglu pan maent ar waith yn didoli ar garreg y drws.
Pennodd y dadansoddiad bod oddeutu naw tunnell o allyriadau CO2e yn deillio o gerbydau yn aros y tu ôl i gerbydau casglu didoli ar garreg y drws fesul 10,000 tunnell o ailgylchu sych a gasglwyd. Mae’r maint o allyriadau CO2e a ddaw o gerbydau’n troi’n segur mor fach mai effaith ddibwys y mae’n ei gael ar y bwlch perfformiad CO2e sylweddol sy’n bodoli rhwng didoli ar garreg y drws a systemau casglu eraill.
Lawrlwytho ffeiliau
-
WRAP-carbon-impacts-report-2016-saesneg-yn-unig.pdf
PDF, 1.16 MB
-
WRAP-carbon-impacts-addendum-2017-saesneg-yn-unig.pdf
PDF, 222.37 KB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.