Mae traciwr ailgylchu Ailgylchu Nawr yn rhoi cipolwg ar agweddau dinasyddion y DU tuag at ailgylchu yn ogystal â gwell dealltwriaeth o'u hymddygiad sy'n gysylltiedig ag ailgylchu. Mae'n arolwg blynyddol o ddinasyddion y DU sy'n casglu tystiolaeth ar agweddau, gwybodaeth ac ymddygiad ailgylchu. Dyma'r mwyaf o'i fath a’r un sydd wedi rhedeg hiraf,, wedi cael ei gynnal gan WRAP ers 2004.
Mae'r arolwg yn defnyddio samplu hwb yng Nghymru i ddarparu sampl gadarn a gwell o ddinasyddion Cymru. Cynhaliwyd gwaith maes ar-lein, rhwng 03–15 Tachwedd 2022. Cynhaliwyd cyfanswm o 5,251 o gyfweliadau gyda oedolion ar draws y DU, sy’n gyfrifol am ymdrin gwastraff ac ailgylchu yn y cartref. Roedd y sampl yn cynnwys 1,041 o oedolion yng Nghymru. Mae'r sampl yn cyd-fynd â phroffil hysbys poblogaeth Cymru, gyda chwotâu wedi'u gosod ar oedran, rhywedd a rhanbarth.
Mae calyniadau y traciwr yn dangos nifer o ganfyddiadau allweddol am ymddygiad ailgylchu:
- Mae ailgylchu yn ymddygiad sefydledig sydd wedi'i normaleiddio'n fawr yng Nghymru, gyda 95% yn nodi eu bod nhw’n ailgylchu'n rheolaidd;
- Mae lle i wella o hyd, o ran cyfleoedd a gollwyd i ailgylchu yn ogystal â rhoi eitemau yn yr ailgylchu nad ydynt yn cael eu derbyn;
- Mae bron i hanner (47%) yn colli cyfleuoedd i ailgylchu eitemau cyffredin;
- Mae dros bedwar o bob pump (84%) yn gwaredu rhywbeth yn yr ailgylchu nad yw'n cael ei dderbyn;
- Mae tueddiadau cadarnhaol yn amlwg. Er enghraifft, mae 2022 wedi gweld llai o halogiad gyda bagiau plastig, ffilmiau a deunydd lapio;
- Ar gyfartaledd, mae dinasyddion Cymru yn cael gwared ar 5.0 eitem yn anghywir. Mae hyn yn unol â figurau diweddaraf y DU
- Mae bron i bedwar o bob pump (78%) yn ailgylchwyr gwastraff bwyd, lefel sy'n gyson â'r ddwy flynedd ddiwethaf
- Mae cyfleoedd i wella'r profiad o ailgylchu bwyd, gyda dros ddau o bob pump (43%) yn dweud eu bod nhw’n aml yn profi gweddillion hylif yn y cadi ac yn agos at un o bob pum bag leinio yn hollti (19%) neu bryfed yn y cartref (19%). Mae cysylltiad mawr rhwng problemau sy’n cael eu hadrodd â boddhad gyda'r bagiau leinio cadi, naill ai'n nodi bod rhai mathau o fagiau leinio yn cael eu ffafrio neu ddim ond lefelau gwahanol o ddisgwyliadau a goddefiannau ymhlith cartrefi;
- Yn gyffredinol, mae boddhad gyda'r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn uchel yng Nghymru ac mae wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf;
- Yn olaf, ymhlith y rhai wnaeth ymgysylltu ag Wythnos Ailgylchu 2022, mae ychydig dros hanner (53%) yn dweud eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth yn wahanol o ganlyniad.
Lawrlwythwch yr adroddiad llawn a chryno isod. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Lawrlwytho ffeiliau
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.
-
Recycling Tracking Survey in Wales: Autumn 2022 - English Summary
PDF, 443.11 KB
-
Recycling Tracking Survey in Wales: Autumn 2022 - English Full Report
PDF, 1.02 MB
-
Recycling Tracking Survey in Wales: Autumn 2022 - Welsh Summary
PDF, 448.96 KB
-
Recycling Tracking Survey in Wales: Autumn 2022 - Welsh Full Report
PDF, 893.56 KB